Dwi newydd ddechrau darllen cyfrol a gyhoeddwyd rhyw fis neu ddau yn ôl. Yn Annwyl D.J.: llythyrau D.J., Saunders a Kate (Y Lolfa) mae Emyr Hywel wedi golygu detholiad o’r ohebiaeth rhwng tri o brif lenorion Cymru – Saunders Lewis, Kate Roberts a D. J. Williams(Abergwaun). Ond roedd y tri hefyd yn ogystal â bod yn llenorion yn weithredol yn wleidyddol ac mae hyn i’w weld trwy eu llythyron. Mae’r golygydd wedi gwneud ymchwil ar fywyd a gwaith D J Williams ac fel ffrwyth yr ymchwil hwnnw y daeth y gyfrol hon i olau dydd. Mae ‘na ryw sôn bod cofiant i D J Williams ar y ffordd hefyd; dwi’n bendant yn edrych ymlaen i hynny yn eiddgar iawn. Yn ddiweddar mae’r gweisg wedi bod yn brysur yn cyhoeddi bywgraffiadau nifer o blith y genhedlaeth gyntaf o genedlaetholwyr Cymreig yr ugeinfed ganrif. Dyna ichi waith T Robin Chapman ar Ambrose Bebb a Saunders Lewis; Dafydd Densil Morgan ar Pennar Davies a J. E. Daniel; ac Arwel Vittle ar Lewis Valentine. Mae ‘na gyfrolau eraill pwysig, yn arbennig felly cofiant Rhys Evans i Gwynfor Evans a’r golygiad o lythyron Kate Roberts a Saunders Lewis gan Dafydd Ifans.
O ddarllen y cyfrolau hyn gyda’i gilydd mae’n bosib cael darlun cliriach o’r hyn oedd yn digwydd a’r syniadau oedd yn cyniwair. Ac o’r syndod o blith y syndod, roedd y dadleuon a’r hyn roedden nhw’n eu drafod yn debyg iawn i’r hyn sy’n cael ei drafod heddiw. Roedd y pynciau yn wahanol, ond yr un egwyddorion oedd yn cynhyrfu bryd hynny a heddiw. Mae rhagymadrodd Emyr Hywel i Annwyl D.J. yn dangos hynny – doedd Saunders a DJ ddim yn gweld pethau yn yr un ffordd o gwbwl ac mae’n amlwg fod Emyr Hywel yn dueddol tuag at ffordd Saunders o weld pethau. Wedi iddo roi gorau’r arweinyddiaeth ac yn fuan wedyn i Gwynfor Evans gymryd ei le fe aeth i deimlo’n gynyddol rhwystredig ac wedi’i ddieithrio oddi wrth y Blaid Cymru Newydd yr oedd Gwynfor yn ei chredu ar ei ddelw ei hun (ymneilltuol heddychol canol-chwith) yn hytrach nag ar ddelw Saunders (Pabyddol milwrol de). Does dim angen gofyn ble fuasai yntau’n sefyll wrth drafod materion cyfoes a dwi’n selio fy rhagdybiaeth ar sylwadau fel hyn yn y rhagymadrodd.
Yn 1959 cynghorodd [Saunders Lewis] D.J., oherwydd ei iechyd bregus, i beidio ag ymgyrchu dros Waldo Williams mewn etholiad cyffredinol. Nid oedd diben i’r Blaid fodoli mwyach gan na allai amddiffyn buddiannau Cymru, fel y dangosodd pan roes y gorau i frwydro yn erbyn boddi Cwm Tryweryn:
“… ar ôl Tryweryn, y peth gorau y geill y Blaid ei wneud yw diflannu’n dawel. Fel y y dwedodd erthygl flaen y Ddraig Goch dro’n ôl: ‘Nid Gwyddelod ydym ni.’ A dyna feddargraff y Blaid.”
(t.14)
Ond nid oedd DJ yn fodlon ildio ac fe fyddai’n gofyn i Saunders dro ar ôl tro i ddychwelyd i wleidydda, ac roedd Saunders Lewis yn ei atebion yn fwy ac yn fwy pendant!
Roedd DJ yn rhywun yr oedd sôn amdano yn ein tŷ ni ac roedd hynny’n dipyn o beth gan nad oeddem ni’n trafod gwleidyddiaeth yn aml iawn. Llafur oedd gwleidyddiaeth adref yn draddodiadol, ond roedd fy mam a’m mam-gu wedi pleidleisio i Blaid Cymru yn etholiad cyffredinol 1959 pan roedd Waldo Williams wedi sefyll yn ei henw. Ac wedyn mae’n rhaid fod pethau wedi datblygu wedi hynny trwy’r 1960au a’r 1970au. Er na ddywedodd neb ddim wrtha i, roedd llawer o bobol yr ardal wedi troi i Lafur o dan ddylanwad yr ymgeisydd Llafur charismatig Willie Jenkins. Yn y 1920au a’r 1930au fe safodd bum gwaith mewn etholiadau cyffredinol yn erbyn y Rhyddfrydwyr a cholli bob tro, ond roedd ei ddylanwad yn fawr. Yn Sir Benfro roedd y ffaith ei fod yn fab i weinidog y Bedyddwyr yn arwyddocaol ac yn gyfrwng i ddenu rhai oddi wrth Ryddfrydiaeth. Yr oedd yn gyfaill i deulu Waldo Williams ac i Waldo ei hun ac i D J Williams yn ôl a ddeallaf. Cafodd ei garcharu am ei heddychiaeth yn ystod Rhyfel Byd 1914-1918 pan yn gweithio fel athro ym Morgannwg. Dychwelodd i Sir Benfro a troi yn rhyfeddod sef ffarmwr sosialaidd! Mae angen adrodd ei stori yntau yn fawr. Dwi’n credu bod fy mam wedi sticio gyda Phlaid Cymru ar ôl 1959, ond dwi ddim yn siŵr am fy nhad, roedd e’n rhy hoff o dynnu fy nghoes i am wleidyddiaeth i gael trafodaeth ddifrifol am y peth. Dwi’n siŵr ei fod wedi pleidleisio i Desmond Donelly yr aelod seneddol Llafur a wnaeth adael y blaid honno er mwyn sefydlu ei blaid ei hyn yn 1970.
Ond dwi’n gwybod hefyd fod pawb wedi dangos diddordeb mawr yn etholiadau 1974 yng Nghaerfyrddin gan fod Mynachlog-ddu yn ffinio â Sir Gaerfryddin a bod llawer o bobol yr oedden ni yn eu hadnabod ac yn ymwneud â hwy yn byw yn yr etholaeth. Dwi’n credu fod fy nhad yn genedlaetholwr o fri yn y gwaith gan imi glywed hanes wedi iddo farw fod y bois yn y gwaith yn tynnu ei goes yntau am hynny ac yn adeg etholiadau yn gosod sticeri Plaid Cymru ar ei dractor; ar adegau eraill buasent hwy’n gosod sticeri Cymdeithas yr Iaith ar dractor hefyd. Y tractor oedd swyddfa fy nhad; roedd yn gyn-was ffarm a gafodd waith fel un o fois yr hewl yn y 1950au. Roedd yn aelod brwd o undeb The National Union of Agricultural & Allied Workers ac yn gwisgo ei fathodyn gyda balchder. Buodd hi’n flynyddoedd cyn iddo ymadael yr undeb hwnnw am un oedd yn fwy cyffredin ymhlith gweithwyr cyngor sef NUPE, a dyna’r undeb yr oedd fy mam hefyd yn aelod ohoni fel cymorth cartref. Roedd dau ewythr hefyd yn aelodau o NUPE oherwydd yr oeddent hwy hefyd yn fois yr hewl, a’u gwragedd yn aelod hefyd am eu bod hwythau yn coginio mewn ysgolion. Pan es i weithio fel llyfrgellydd yn Sir Morgannwg Ganol fe fues i hefyd yn aelod am ychydig!
Sôn am grwydro! Rhaid imi droi yn ôl at Annwyl D.J.

![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael