Dyw blog Vaughan Roderick yn pylu dim o ran diddordeb, a dim rhyfedd gan fod cymaint o bethau diddorol yn digwydd. Ar ei flog yntau y darllenais i fod Lembit Opik heb fynd i gyfarfod tyngedfennol o’r Lim Demiaid yn Llandrindod neithiwr ond yn hytrach fe ddewisodd recordio rhaglen deledu. Fe wnes i droi at y teledu am y tro cyntaf ers tipyn heno i weld y rhaglen Have I got news for you. Roeddwn i am weld y rheswm pam nad oedd aelod seneddol Maldwyn, Lembit Opik, wedi mynd i’r cyfarfod holl bwysig yn Llandrindod neithiwr pan benderfynodd y Dem Rhyddiaid geisio cytundeb gyda Phlaid Cymru a’r Torïaid yn hytrach na chyda Llafur. Wedi gweld y rhaglen a’i gyfraniad cwbl bitw dwi’n siŵr fod y Dem Rhyddiaid yn falch nad oedd wedi trafferthu dod yno os dyna oedd lefel y cyfraniad oedd ganddo. Roedd penderfyniad y Lib Dems yn dipyn o sioc i mi, ac yn raddol wrth imi droi pethau drosodd yn fy meddwl fe wnes i synnu fy hunan wrth ddechrau cynhesu at yr holl syniad o Blaid Cymru yn arwain Llywodraeth Cymru. Dwi’n gwybod y buasai’n rhaid llyncu pilsen reit chwerw wrth glymbleidio gyda’r Dem Rhyddiaid a’r Torïaid, ond dwi ddim yn credu bod yn rhaid ofni gwneud hynny bellach. Dwi’n siŵr y bydd ‘na ddigonedd o bobol fydd am ymosod o’r tu fewn a’r tu fas am hyd yn oed ystyried y fath beth. Nid yw’n beth hawdd, ond mae pethau wedi newid. Roedd ‘na adeg pan buaswn i’n teimlo’n euog am ystyried clymbleidio gyda’r Torïaid, ond wrth iddi ddod yn fwy anodd i wahaniaethu rhwng Llafur a Thori ar gymaint o’u polisïau mae’r euogrwydd yn pylu hefyd. Dwi’n siŵr y bydd Llafur yn defnyddio pob cyfle i ymosod petai hyn yn digwydd, ond mae’n rhaid derbyn ac ymosod ‘nôl. Mae angen llywodraeth sefydlog ar Gymru ac os nad yw’r Blaid Lafur yn fodlon gweithio gyda phleidiau eraill mewn modd ystyrlon yna mae’n rhaid i rywun arall gymryd at y gwaith. Am bob drwg a wnaeth y Torïaid mae’n bosib dod o hyd i fai yn Llafur Newydd hefyd ac felly mae’n siŵr y buasai rhai’n dweud taw’r ateb yw troi cefn ar y ddwy blaid a chadw ein hunain yn “bur”. Wedyn gweithio’n galed ac yn dawel i gynyddu ein pleidlais a’n cynrychiolaeth dipyn wrth dipyn nes ein bod yn medru ffurfio llywodraeth ar ein pennau ein hunain. Mewn byd perffaith mae’n rhaid taw dyna fyddai’r ateb, ond rydyn ni’n gorfod byw gyda chanlyniad yr etholiad ar Fai 3; mae’n rhaid ffurfio llywodraeth o ryw fath cyn bo hir gan nad oes neb am fynd am etholiad arall. Mae’n rhaid inni hefyd fyw gyda’r hyn sy’n cael ei gynnig. Er nad ydw i’n gwybod yn hollol beth sydd wedi digwydd, mae’n amlwg nad yw’r Dem Rhyddiaid yn credu fod Llafur yn cynnig digon ac mae’n amlwg hefyd nad yw Llafur yn cynnig digon i Blaid Cymru. Yn ôl a ddeallaf fi does dim clymbleidio ar y bwrdd, dim ond trefniant. Roedd Rhodri Morgan yn edrych yn ostyngedig iawn ar Newyddion 7.30pm ar S4C, roedd e’n edrych yn flinedig hefyd. Ydy gweld fod pethau ar ben ac mae’r hyn sy’n mynd i ddigwydd nesaf yw gorfod camu o’r neilltu a gadael i rywun arall wneud y gwaith? Ai ffantasi yw mae Ieuan Wyn Jones o Blaid Cymru fydd hwnnw? Mae’n dechrau edrych yn fwy tebygol wrth i’r oriau fynd yn eu blaen. Felly mae’r fraint y brwydrodd cymaint amdani yn edrych fel petai’n dod i IWJ. Ond fel dywedodd un prif weinidog, “Mae wythnos yn amser hir mewn gwleidyddiaeth”, ac mae’n ddigon posib y bydd popeth wedi newid a Rhodri Morgan yn brif weinidog eto erbyn diwedd yr wythnos nesaf. Y cyfan ddyweda’ i yw bod gwleidyddiaeth Cymru yn ddiddorol iawn ar hyn o bryd. A dyw hynny ddim yn ddrwg o beth o gwbl.
[Mae'r llun hyfryd o'r enfys gan ffotograffydd o Chile, Haddy]

![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael