Dwi’n gobeithio nad oes raid imi esbonio i neb taw prysurdeb yn hytrach na diffyg cyffro sy’n gyfrifol am beidio â chyfeirio at ddyfodiad y rhifyn diweddaraf o’r cylchgrawn Barddas i Blas-yn-Dogfael. Fe ddaeth ddydd Sadwrn ynghyd â’i frawd; roedd hwnnw ar gyfer DML. Ni allai neb osgoi’r ffaith ei fod wedi dod gan fod [...]
Galla i ddim dadlau gyda’r ffaith fod fy mywyd yn llawn amrywiaeth, mae wastad rhywbeth newydd a gwahanol i’w wneud. Fore Sadwrn roeddwn i’n troi fy nghefn ar actifyddiaeth i ymdawelu am ychydig yn encil flynyddol Eglwys y Santes Fair, Aberystwyth. Eleni roedden ni’n cwrdd fel arfer ym Mhlas Dolau ger Gelli Angharad. Plas bach [...]
Dwi ddim yn gwybod ble i ddechrau’n iawn dweud hanes fy mhenwythnos. Fe wnes i ei orlenwi, fel arfer. Rydw i wedi dweud hanes nos Sadwrn a Chystadleuaeth Cân Eurovision, ond fe wnes i wneud llawer o bethau cyn hynny. Nos Wener fe fues i yn Nhyglyn Aeron er mwyn dathlu (unwaith eto!) buddugoliaeth Elin [...]