Gwyrth fechan?

Galla i ddim peidio â sôn am un peth sy’n digwydd yfory nad oeddwn i’n credu y byddwn i yn ei weld yn ystod fy mywyd, sef sefydlu llywodraeth gogledd Iwerddon gyda Ian Paisley a Martin McGuiness. Fel rhywun a aned yn 1960 roedd gwrthdaro gogledd Iwerddon yn rhan annatod o fy magwraeth, ynghyd â [...]

Dechrau ‘rhyfel cartref’ y Dem Rhyddiaid yng Nghymru?

Mae’r rhyfel cartref o fewn i’r Dem Rhyddiaid yng Nghymru yn cynyddu. Dyw Peter Black ddim yn fodlon bod yn dawel ynglŷn â’i anniddigrwydd gydag arweinyddiaeth Mike German a Lembit Õpik ac mae’n defnyddio ei flog i ddweud ei farn yn eglur. Dwi ddim yn synnu dim yn achos Õpik gan ei fod wedi gwneud [...]

Gŵyl Calan Mai

Mae gŵyl y banc arall drosodd, sef gŵyl Calan Mai neu Ŵyl y Gweithwyr. Ond does dim byd yn digwydd ar y diwrnod hwn mewn gwirionedd. Dyw’r undebau llafur ddim yn gryf iawn yma nac wedi’u trefnu yn ddigon da i drefnu rhywbeth ac mae hynny’n biti mawr. Dylai gweithwyr ddathlu eu llafur, eu hundeb [...]

Blog fideo cyntaf

Dogfael yn adrodd hanes ei ddiwrnod a’i farn am etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol a phwy ddylai lunio Llywodraeth Cymru. Maddeuwch imi gadw fy llygaid ar gau am lawer o’r blogiad hwn.

Lawrlwytho’r ffeil