Nawr ‘te, mae pethau’n dechrau mynd yn ddiddorol. Gyda’r canlyniad pwysicaf allan o’r ffordd, mae’n gyfle i edrych o gwmpas ar beth sy’n digwydd mewn mannau eraill. Y peth cyntaf dwi’n sylwi arno yw pa mor anodd yw hi i swyddogion canlyniadau reoli gwybodaeth am yr hyn sy’n digwydd yn y gwahanol ganolfannau cyfri. Roedd adeg cyn ffonau symudol, rhyngrwyd diwifr a phob gadjet arall lle’r oedd hi’n bosib i’r swyddog canlyniadau selio canolfan gyfrif hyd nes ei fod ef (a dyn oedd e fel arfer) yn gweithredu ei hawl i gyhoeddi’r canlyniad. Byddai’r cyhoeddiad ei hun yn cael ei wneud mewn iaith ffug-gyfreithiol ac yn y fath fodd fel nad oedd hi’n bosib i’r rhai oedd yn gwrando wybod dros ba blaid yr oedd pob ymgeisydd yn sefyll, yn hytrach roedd yr etholiad yn rhyw fath o gêm ar gyfer boneddigion fel criced. Dim ond yn yr ychydig funudau diwethaf y daeth canlyniad go iawn i’r golwg, ond rydyn ni wedi bod yn gwrando ar arbenigwyr a gwleidyddion yn trafod ‘canlyniadau’ yr etholiad ers dwy awr a mwy.

![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Mae’r broses o gyhoeddi’r canlyniadau gymaint â hynny’n fwy arteithiol pan mae’r cyfan yn cael ei wneud yn ddwyieithog a’r Saesneg wastad yn gyntaf!