Bore arall

Dwi wedi codi o’r diwedd, ar ôl mynd i’r gwely yn y pendraw am ryw 7.00am. Dwi’n gwybod fy mod i wedi dweud fy mod yn mynd i’r gwely am 4.00am, ond wrth imi fynd at i dynnu fy nillad dyma alwad ffôn oddi wrth y criw oedd wedi mynd lawr i’r cyfri yn Aberaeron [...]

Etholiad 2007 (12)

Mae’n 4.00am, dwi’n mynd i’r gwely. Dwi’n mwynhau blogio, ond mae’n rhaid i ddyn gysgu hefyd. Bydd yn rhaid i ganlyniadau Gorllewin Clwyd, Preseli Penfro, Gogledd Caerdydd, ac Aberconwy aros tan y bore. Heb sôn am beth sy’n digwydd yn yr Alban. Galwch fi’n wimp os ydych chi am, ond nos da.

Etholiad 2007 (11)

Mae fy nghorff yn barod i fynd i’r gwely, ond mae’r canlyniadau sy wedi dod i fewn dros yr hanner awr ddiwethaf wedi fy mesmereiddio a’m cadw ar ddihun. Does dim byd mawr wedi digwydd, i ddweud y gwir mae’n edrych ychydig fel “business as usual” – Llafur yn cadw Aberafan, Plaid Cymru yn ‘cadw’ [...]

Etholiad 2007 (10)

Mae’n frwydr y blogiau yn fy nhyb i ar y BBC heno. Ar un ochr mae Vaughan Roderick, ffefryn gen i, ond ar yr ochr arall (h.y. yn Saesneg!) mae Blog Betsan Powys. Rhaid imi gyfaddef ar y dechrau roeddwn i’n credu fod Vaughan yn ennill y frwydr yn hawdd. Ond mae Betsan wedi [...]

Etholiad 2007 (9)

Pennawd diddorol ar wefan BBC ynglŷn â’r etholiadau yn yr Alban: Fog halts count in key marginal. Mae’n rhaid darllen stori gyda theitl fel ‘na. Ond fel arfer holl bwynt teitlau diddorol yw ceisio gwerthu stori sydd ddim cweit mor ddiddorol.

Etholiad 2007 (8)

Nawr ‘te, mae pethau’n dechrau mynd yn ddiddorol. Gyda’r canlyniad pwysicaf allan o’r ffordd, mae’n gyfle i edrych o gwmpas ar beth sy’n digwydd mewn mannau eraill. Y peth cyntaf dwi’n sylwi arno yw pa mor anodd yw hi i swyddogion canlyniadau reoli gwybodaeth am yr hyn sy’n digwydd yn y gwahanol ganolfannau cyfri. Roedd [...]

Etholiad 2007 (7)

Dwi newydd fod yn gwylio cyfweliad gyda Elin Jones (Plaid Cymru) a John Davies (Dem Rhydd) ar y teledu ac mae’n ymddangos fod Plaid Cymru wedi cadw’r sedd a chynyddu canran eu pleidlais. Yn ôl fy ffynonellau i mae Plaid Cymru wedi cael rhyw 48% o’r bleidlais, y Dem Rhyddiaid 35% sy’n golgyu nad oes [...]

Etholiad 2007 (6)

Diolch Vaughan Roderick! Dyma beth sydd newydd ymddangos ar ei flog.

12.54 Democratiad Rhyddfrydol yn cyfaddef eu bod am fethu yng Ngheredigion

Dwi ddim am ymddangos fel rhwy Domos, ond dwi jyst eisiau ychydig bach yn fwy o wybodaeth cyn fy mod yn rhedeg yn borcyn trwy strydoedd Aberystwyth! Gallaf eich sicrhau fod y rhyddhad cymaint â [...]

Etholiad 2007 (5)

Dal i ddisgwyl gwybodaeth gadarn o Aberaeron lle mae’r pleidleisiau yn cael eu cyfri yn etholaeth Ceredigion. Dwi ddim am ymddangos yn blwyfol nac yn gul, ond hyd nes fy mod i’n gwbl sicr bod y newyddion o fan ‘co yn newyddion da i Blaid Cymru fydda i ddim yn teimlo’n rhydd i flogio fel [...]