O’r diwedd mae blog Vaughan Roderick wedi’i ail enwi yn swyddogol yn Blog Vaughan Roderick – llongyfarchiadau iddo ar gael blog wedi’i enwi ar ei ôl! Er ei fod ar ei wyliau mae ganddo amser i flogio; mae’n rhaid ei fod yn cael y peth yr un mor gaethiwus â chyffur. Heddiw mae wedi dod [...]
Dwi yn Aberystwyth ar fy mhen fy hun heddiw. Mae fy nghyfeillion wedi mynd i Ŵyl y Gelli, neu’n hytrach The Guardian Hay Festival. Dwi’n gobeithio’n fawr iawn y byddan nhw’n mwynhau eu hunain. Mae’r lle yn llawer rhy debyg i eisteddfod i mi deimlo’n gartrefol yno! Dyw pawb ddim yn ffrindiau i’r ŵyl; mae’n [...]
Daeth y cyfri i ben yn hwyr neithiwr yn etholiadau Iwerddon. Ar ddiwedd y broses roedd hi’n amlwg fod prif blaid y llywodraeth, Fianna Fáil, wedi gwneud yn dda iawn, ac wedi ennill i’r graddau y mae’n bosib ichi ennill mewn sustem gyfrannol (er eu bod wedi colli seddau). Fe wnaeth y brif wrthblaid, Fine [...]
Yfory y mae’n ŵyl y Pentecost pan fo Cristnogion yn cofio ac yn dathlu dyfodiad yr Ysbryd Glân. Roedd y digwyddiad yn annisgrifiadwy, ond gan nad oedd unrhyw ffordd i gofnodi’r digwyddiad ond trwy ddisgrifiad fe ddywedodd yr awdur Luc fod yr Ysbryd Glân wedi dod fel tafodau o dân a chyda sŵn mawr fel [...]
Dwi’n credu fod ‘na rhywbeth sy’n sylfaenol waraidd am ddull Iwerddon o bleidleisio, ond mae hynny’n wir am eu dull o gyfri’r pleidleisiau hefyd. Nid rhywbeth sy’n digwydd liw nos fel gweithred gywilyddus o ffiaidd i’w cuddio rhag llygaid pobol boleit yw cyfri’r pleidleisiau yno, ond dathliad o ddemocratiaeth, cymuned a chenedligrwydd. Caiff democratiaeth ei [...]
Mae’r sibrydion cyntaf wedi dechrau dianc o’r neuaddau cyfrif ac fe fydd Blog Dogfael yn cynnig newyddion RTÉ a’r Irish Independent fel gwasanaeth ar y golofn dde hyd nes bydd yr holl ganlyniadau wedi’u cyhoeddi. I’r sawl sydd â diddordeb mae’n bosib gwylio rhaglen etholiadol RTÉ yn fyw ar eu gwefan a hefyd ffrwd fyw [...]
Dwi’n dechrau teimlo ‘mod i’n dangos llawer gormod o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth ar y blog yn ddiweddar. Wn i ddim a wnes i ddweud wrth y blog am yr hanner-adduned a wnes i ryw flwyddyn neu fwy yn ôl i ’symud ymlaen’ oddi wrth wleidyddiaeth i wneud rhywbeth arall gyda fy mywyd ar ôl etholiadau’r [...]
Mae heddiw wedi bod yn etholiad cyffredinol yng Ngweriniaeth Iwerddon. Etholiadau’r weriniaeth yw un o uchafbwyntiau yr anorac sustemau pleidleisio, oherwydd maen nhw’n defnyddio y peth agosaf at sustem berffaith o gyfranoldeb, sef pleidlais sengl drosglwyddadwy (single transferrable vote, neu STC) a hynny mewn etholaethau aml-aelod. Cyhoeddodd yr Electoral Reform Society (ERS) lyfryn yn 1973 [...]
Yfory fe fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ymgynnull am yr eilwaith ers etholiad 3 Mai – y tro hwn i ethol Prif weinidog, ac mae pawb yn gwybod bellach taw Rhodri Morgan fydd hwnnw. Wedi’r holl drafod a’r gobeithio am newid, mae pethau’n aros yr un peth ag yr oedden nhw i bob pwrpas, sef [...]
Egsglwsif i Flog Dogfael
Peter Black yn helpu Mike German i bostio ei lythyr ymddiswyddiad!
Fel un nad yw’n gwrando ar BBC Radio4 o ran egwyddor (dwi ddim am orfod dioddef y is-bropaganda Prydeinllyd sydd ymhlyg yn ei holl allbwn darlledu) wnes i ddim clywed newyddiadurwr o Gymro yn adrodd bod y trafodaethau ynglŷn â ffurfio Llywodraeth Cymru wedi troi yn ffars, ond yn ôl yr hyn a ddywedwyd wrtha [...]
Gyda phwyllgor cenedlaethol y Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud nad ydyn nhw am drafod mynd i glymblaid gyda neb i ffurfio Llywodraeth Cymru mae’n rhaid gofyn beth sy’n digwydd i’r Democratiaid Rhyddfrydol? Ydyn nhw wedi penderfynu nad ydyn nhw am fod yn blaid wleidyddol bellach ac am droi yn grŵp pwysau sy’n derbyn nawdd cyhoeddus ac [...]
Heno fe gefais i’r fraint o arwain noson i lansio cyhoeddi’r rhifyn diweddaraf o Tu chwith. Roedd y noson yn cael ei chynnal yn yr Orendy ac fe wnaeth pawb wthio i mewn i’r Cwts fel penwaig yn yr halen. Roedd ‘na nifer o feirdd ac ysgrifenwyr yn rhan o’r noson: Euirg Salisbury, Iwan Rhys, [...]
Dyma fy ngharreg ‘lwcus’, ond rhaid imi gyfaddef nad yw hi wedi dod â llawer o lwc i mi; dwi ddim yn rhyw gredwr cryf mewn lwc ‘ta beth. Ond fe wnes i ei chodi o’r prom yn Abersytwyth wedi storm yn ystod yr hydref llynedd. Ers hynny dwi wedi’i chario o gwmpas gyda mi [...]
Dwi ddim yn gwybod faint o gyffro mae’r trafodaethau am Lywodraeth Cymru yn ei achosi ymhlith yr etholwyr yn gyffredinol, dim rhyw lawer tybiwn i o weld faint o drafod sydd ar y peth yn gyffredinol. Mae’r blogwyr wrth eu boddau, nid oes digon o oriau yn y dydd i’r actifyddion gwleidyddol i drafod pob [...]
Dogfael yn dweud ychydig o'i hanes dros y dyddiau diwethaf ac yn osgoi pob sôn am ba bleidiau fydd yn ffurfio Llywodraeth Cymru nesaf. Yn lle hynny mae'n dweud am y pryd o fwyd a gafodd ym mwyty yr Olive Branch heno, am wasanaethau'r Sul ac am siopa ddydd Sadwrn. Jyst y bywyd digyffro arferol [...]
Credaf ei bod yn gyffredin ymhlith blogwyr i gadw cyfrif o faint o bobol sy’n ymweld â’u safle yn gyson ac o ble maen nhw’n dod. Nid ydw i’n wahanol i’r rhelyw yn hynny o beth. O’r herwydd dwi’n medru rhannu rhai feithiau diddorol gyda chi am fy mlog. Mae pawb sy’n ymweld â’r blog [...]
Dwi wedi cael anrheg ffantastig gan catfael, un o ddarllenwyr Blog Dogfael. Diolch yn fawr iawn iddo. Mae’n werth gwrando ar y gân.
Ffeil MP3
Buddugoliaeth i Chelsea yn y rownd derfynol gyntaf Cwpan Lloegr i’w chwarae yn y Wembley newydd. Bydd hyn yn fy nghadw yn hapus am ychydig ac yn ddigon i dynnu fy meddwl oddi ar ddatblygiadau gwleidyddol am awr neu ddwy. Da iawn Drogba! Da iawn Mourinho!
Heddiw fe fues i mas yn gwario arian a’r peth mwyaf a brynais i oedd troli siopa. Dyma’r tro cyntaf imi brynu troli siopa ond fe es i am un o’r goreuon. Er bod trolïau siopa yn cael eu cysylltu gyda hen wragedd gyda sgarffiau ar eu pennau mae ‘na resymau digon ymarferol dros gael [...]