Mwy o erlid ar Gwrdiaid Twrci

Ahmet TurkNewydd ddarllen stori ar wefan newyddion y BBC am erlyn arweinwyr Plaid y Gymdeithas Ddemocrataidd (Demokratik Toplum Partisi, DTP) yn Nhwrci. Plaid Gwrdaidd yw’r DTP i bob pwrpas ac mae un o’i harweinwyr, Ahmet Turk, wedi’i ddedfrydu i chwe mis o garchar am alw’r arweinydd trefysgol Abdullach Ocalan yn “Mr Ocalan”. Yr wythnos diwethaf cafodd yntau ac un arall o arweinwyr y blaid, Aysel Tuğluk, eu dedfrydu i ddeunaw mis o garchar am ddosbarthu llenyddiaeth wleidyddol mewn Cwrdeg ar Dydd Rhyngwladol y Menywod 2006. Yn Nhwrci nid oes hawl dosbarthu llenyddiaeth wleidyddol ond mewn Twrceg. Cyn iddynt gael eu carcharu bydd yn rhaid i lys uwch gadarnahu eu dedfryd. Mae hyn i gyd yn digwydd wrth i’r cyn-arlywydd Kenan Evren awgrymu bod angen i Dwrci drawsnewid o fod yn wladwriaeth ganoledig i fod yn ffederasiwn, awgrym sydd wedi ennyn llid cenedlaetholwyr Twrcaidd. Mae rhai yn awgrymu bod gwneud awgrym o’r fath yn arwydd o salwch meddyliol ar ei ran.

Aysel Tuğluk

Aysel Tuğluk yn annerch cyfarfod o blaid y DTP.

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>