Mae hen dŷ cwrdd yr Undodiad yn y Stryd Newydd, Aberystwyth ar werth. Wrth fynd heibio iddo heddiw fe ddechreuais i ffantaseiddio am brynu’r lle a chreu yno fy enwad bach crefyddol fy hun. Er fy mod yn aelod ffyddlon yn yr Eglwys yng Nghymru mae ‘na rai pethau mae’n eu gwneud nad ydw i’n cytuno â hwy. Felly fe fyddai’n fy enwad bach i yn debyg iawn i’r Eglwys yng Nghymru ond yn gwneud popeth dwi’n credu ei bod hi yn ei wneud yn anghywir yn iawn. Yn anffodus fe fyddwn i wedi achosi rhaniad arall yn yr eglwys Gristnogol wrth wneud hynny. Ac wrth gwrs y broblem fawr wrth geisio creu eich eglwys berffaith eich hun yw bod eich amherffeithrwydd personol chi yn mynd i darfu ar unrhyw ymgais i gyrraedd at y nod hwnnw!
Mae’r un peth yn digwydd gyda phleidiau gwleidyddol hefyd. Bydd y dymuniad i beidio â chyfaddawdu ar ddim byd o gwbwl yn gyrru pobol i greu pleidiau gwleidyddol personol iddyn nhw eu hunain, gan wybod taw dim ond yn yr amgylchiadau mwyaf eithriadol y mae gobaith iddynt lwyddo. Cyfaddawdu a chlymbleidio sy’n rhaid yn y byd gwleidyddol hefyd. Wrth gwrs mae ‘na eithriadau, ac eithriad felly oedd David Ivon Jones (1883-1924) a oedd yn un o’r unigolion allweddol yn y mudiad a arweiniodd at sefydlu Plaid Gomiwnyddol De Affrica. Yr oedd ef yn un a arferai addoli yn yr hen dŷ cwrdd cyn iddo adael Aberystwyth am Dde Affrica oherwydd ei iechyd a thori ei gefn a ryddfrydiaeth am sosialaeth gwbl ddigyfaddawd.

![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael