Newyddion mawr!

Peter HainDwi’n gwybod taw’r newyddion mawr o Gymru ddoe oedd y cyhoeddiad gan Charlotte Church ei bod hi’n disgwyl. Ond yn y cefndir dwi’n credu imi glywed rhyw sôn fod Peter Hain wedi dweud nad oedd unrhyw bosibilrwydd o gwbwl y buasai y Blaid Lafur a Phlaid Cymru yn mynd i glymblaid i ffurfio Llywodraeth yn y Cynulliad Cenedlaethol. Felly dyna ni. Does dim angen i bobol Cymru bleidleisio o gwbwl – mae wedi’i benderfynu yn barod. Efallai fy mod i’n bod yn naïf, ond rhaid imi gyfaddef taw dyna roeddwn i’n gobeithio a fyddai’n digwydd. Dyw’r Blaid Lafur ddim yn mynd i ennill y mwyafrif fydd ei angen arnyn nhw i ffurfio llywodraeth heb fynd i glymblaid gyda phlaid arall. Felly mae’n rhaid Llafur yn weddol sicr fod y Democratiaid Rhyddfrydol yn mynd i ennill digon o seddau i fedru ffurfio llywodraeth gyda nhw. Rhaid cael llywodraeth sydd â digon o fwyafrif i lywodraethu ac o dan sustem bleidleisio gyfrannol mae’n arferol taw llywodraeth glymblaid fydd honno. Ond mae pethau’n medru newid pan fo angen i hynny ddigwydd. Dwi’n cofio’r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud na fydden nhw’n ystyried clymblaid gyda neb heb fedru delifro pleidleisio cyfrannol mewn etholiad lleol yng Nghymru. Ond yn dawel bach maen nhw wedi gadael yr amod hwnnw heibio. Mae “byth” yn air annoeth i’w ddefnyddio mewn gwleidyddiaeth fel mewn bywyd yn gyffredinol. Felly efallai y bydd hi’n rhaid i Peter Hain fwyta’i eiriau wedi etholiadau mis Mai, ond efallai y bydd hi’n rhaid iddo yntau neu finnau wynebu rhywbeth llawer mwy anodd i’w dderbyn na chlymblaid rhwng Plaid Cymru a Llafur. Dwi’n credu y bydd yn rhaid imi ddechrau byw mewn gwadiad os oes mwy o sôn am yr hunllef hwnnw!

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

1 sylw ar Newyddion mawr!

  • Gormod o sosialwyr ym Mhlaid, fely byddai clymblaid yn debyg o’u hyrywddo ar draul Lafur.

    Mae’r realpolitik enwadol yna sydd yn rheswm na ffydd clymblaid Lafur/Plaid.

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>