Dathlu Gŵyl Dewi

Yn y gegin wedi'r swperFel Cymro mae cadw Gŵyl Dewi fel gŵyl genedlaethol yn bwysig iawn i mi. Fel eglwyswr mae dathlu Gŵyl Dewi yn bwysig iawn i mi hefyd. Ond nid yw’r ddau yn un. Neithiwr fe fues i’n dathlu Gŵyl Dewi fel gŵyl Gristnogol yng nghwmni cyd-Gristnogion o blwyf Aberystwyth. Eto doeddwn i ddim yn medru anghofio neu wadu nad oeddwn hefyd yn gweld elfennau gwladgarol yn yr hyn yr oeddem yn ei wneud.

Byddwn ni’n dathlu Gŵyl Dewi bellach ym mhlwyf Aberystwyth trwy gadw’r hyn a elwir yn swper agape, sef gweinyddiad o’r Cymun Bendigaid yng nghyd-destun pryd o fwyd arferol. Er taw dim ond unwaith y flwyddyn yr ydym yn cadw swper o’r fath mae yn ein hatgoffa ni fel Cristnogion fod y Cymun Bendigaid yn wreiddiol yn bryd o fwyd cymunedol, ond bod amser ac arferion ac ymarferoldeb wedi ffurfioli’r peth. Dwi’n siŵr y buasai rhai yn dadlau’n gryf dros ddychwelyd at yr arfer, ond mae’r ffaith ein bod yn medru gwneud hyn unwaith y flwyddyn yn gam ymlaen.

Enid Morgan a Stuart BellFel rhan o’n gwledd agape mae’n arfer cael siaradwr neu bregethwr gwadd. Eleni cafwyd cwmni y Barchg Ganon Enid Morgan ac yn naturiol ddigon fe siaradodd hi am Dewi Sant ac am ein perthynas ag ef fel Cristnogion, fel Cristnogion o Gymry, ac fel Cymry. Yn ei sgwrs fe ddadlennodd hithau gymhlethdod ein dathlu a’r modd yn Dewi Sant y mae dechreuadau Cymru a Christnogaeth yng Nghymru wedi’u cyfuno ac ar brydiau y mae’n anodd inni eu gwahanu. Ac mae’r cwestiynau’n codi a ydyn ni am eu gwahanu, ac a yw hi’n bosib eu gwahanu. Mewn un ffordd fel Cristnogion gallwn ni ddim ein gwahanu ein hunain oddi wrth Dewi o gwbl, gan ein bod yn dal i fod yn aelodau o’r un eglwys – nage, dwi ddim yn dweud taw aelod o’r Eglwys yng Nghymru oedd Dewi!. Rhan o gred y Cristion yw fod yr eglwys yn un, ac os ydym ni’n credu mewn bywyd am byth ac am berthynas am byth gyda Duw, mae’n dilyn hefyd fod gennym berthynas am byth gyda’n cyd-Gristnogion ddoe a heddiw ac yfory – yr ydym yn disgrifio hyn fel “cymundeb y saint”. Mae pethau’n mynd yn fwy cymhleth byth nawr!

Cafwyd noson hyfryd o gyfeillach a chymundeb. Byddaf yn parhau i gadw Gŵyl Dewi heno, ond y tro hwn gyda chawl a thipit o dan nawdd Plaid Cymru yn Aberystwyth a Phenparcau. Sut bydd y dathliad hwn yn ffitio i fewn i’r patrwm dwi wedi gosod dwi ddim yn gwybod. Dwi’n credu fy mod i’n ceisio gwneud pethau yn gymhleth i fi fy hunan ar brydiau!

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

1 sylw ar Dathlu Gŵyl Dewi

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>