Yn ogystal â bod yn Ddydd Gŵyl Dewi mae 1 Mawrth eleni hefyd yn Ddiwrnod y Llyfr ac ar newyddion Radio Cymru y bore ‘ma cafwyd cyfweliad gydag un o swyddogion y Cyngor Llyfrau pan gyhoeddwyd beth oedd y gwerthwyr gorau o ran nofelau a hunangofiannau yn ystod 2006.
Y tair nofel ar y brig oedd:
- Fflur Dafydd, Atyniad (Y Lolfa);
- Gwen Pritchard Jones, Dygwyl eneidiau (Gwynedd); a
- Bethan Gwanas, Hi oedd fy ffrind (Y Lolfa).
Y gwerthwr gorau oedd nofel Bethan Gwanas.
Y tri hunagofiant oedd:
- Huw Ceredig, Cofio pwy ydw i (Dref Wen);
- Robin McBryde, Y Cymro cryfa (Y Lolfa); a
- Gwyn Thomas, Bywyd bach (Gwynedd).
Y gwerthwr gorau oedd Robin McBryde.
Dwi ddim wedi darllen yr un o’r nofelau, ond dwi wedi darllen y tri hunagofiant a mwynhau’r tri.

![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael