Cysgod y Cryman

DML, RO a DJP wedi'r perfformiadMae’n rhaid fy mod wedi gosod tipyn o record i fi fy hun wrth imi fynd i weld drama arall o fewn ychydig wythnosau i’r profiad gwych hwnnw yn Neuadd Goffa Tregaron pan welais i Meini gwagedd gan James Kitchener Davies. Heno bues i weld cynhyrchiad diweddaraf y Cwmni Theatr Cenedlaethol, sef addasiad Siôn Eirian o nofel Islwyn Ffowc Elis, Cysgod y cryman. Yn ariannol dwi’n siŵr fod y penderfyniad i lwyfannu’r nofel hon wedi bod yn benderfyniad doeth iawn ar ran y cwmni oherwydd roedd y theatr yng Nghanolfan y Celfyddydau yn llawn ar y noson, ac felly mae hi wedi bod mewn llawer canolfan yn ystod y daith. Roedd tocynnau yn brin iawn ac roeddwn i’n teimlo braidd yn euog o fod â thocyn gan nad oeddwn dod at y cynhyrchiad gyda’r parch yr oedd gan eraill tuag at y nofel wreiddiol.

Yn y lle cyntaf rhaid imi ddweud imi fwynhau. Ni chefais fy niflasu’n er bod y cynhyrchiad yn rhyw ddwy awr a hanner o hyd. Yn wahanol i feirniad theatr Y Cymro, Paul Griffiths, rhaid imi ddweud nad oeddwn yn teimlo fod “erchyll” yn addas i ddisgrifio rhai agweddau ar y cynhyrchiad ac nad oedd yn deilwng o’r nofel. Efallai nad oedd y nofel yn deilwng o’r fath driniaeth yn y lle cyntaf; dwi’n ei chael hi’n anodd deall sut y llwyddodd i wneud y fath argraff ar gynulleidfa pan y’i cyhoeddwyd hi gyntaf yn y 1950au. Yr unig esboniad yw fod cyflwr y nofel Gymraeg yn wantan iawn ar y pryd. I ddweud y gwir yn ei gyflwyniad i’r nofel sydd yn y rhaglen theatr mae’r ysgolhaig T. Robin Chapman yn dweud taw fel aflwyddiant yr oedd yr awdur ei hun yn ystyried llwyddiant ysgubol ei nofel dros y blynyddoedd – nid oedd nofelwyr eraill wedi ateb ei her yntau.

Darllenais i’r nofel gyntaf yn fy arddegau cymharol gynnar. Doeddwn i ddim yn gwybod am “hanes” y nofel a’r hyn wnaeth fy nharo i ar unwaith oedd diffyg lliw neu sylwedd y rhan fwyaf o’r cymeriadau. Mae hyn i’w weld ar ei fwyaf amlwg yng nghymeriadau Karl (yr Almaenwr) a Wil James – da a drwg mewn du a gwyn. A’r gwir amdani yw nad yw cymeriadau’r nofel yn rhai trawiadol iawn, er bod y prif gymeriad Harri Vaughan wedi llwyddo yng ngolwg rhai. Cynrychiola cymeriadau’r nofel deipiau ac mae’n amlwg fod Elis wedi ysgrifennu’r nofel gyda’r bwriad o addysgu, neu o leiaf drafod a gwyntyllu syniadau gwleidyddol a chymdeithasol y dydd. Heb gymeriadau o ddyfnder efallai ei bod hi’n anodd credu drama o ddyfnder.

Cysgod y crymanYn wahanol i Paul Griffiths nid wyf yn medru rhoi fy mys ar ddim byd penodol, ond nid oeddwn yn credu fod y cynhyrchiad yn theatr llwyddiannus. Roedd y set yn iawn, er eich bod weithiau yn gobeithio y byddai stopio troi ac yn aros yn llonydd am ychydig er mwyn rhoi cyfle i’r actorion eu hunain symud. Doeddwn i ddim yn teimlo fod ‘na wendidau yn y castio na’r actio, ac i ddweud y gwir fe wnes i fwynhau perfformiad Carwyn Jones fel Harry Vaughan. Efallai taw’r rheswm fy mod yn teimlo nad oedd y peth yn llwyddiant oedd am ei bod yn amhosib creu drama lwyfan o nofel fel Cysgod y cryman. Yn y diwedd yr hyn a gawsom oedd nofel ar lwyfan; a’r hyn a fyddai wedi bod yn llwyddiant fyddai drama ar lwyfan. Bai’r dramodydd felly? Dwi ddim yn meddwl ei bod mor hawdd â hynny i roi bai chwaith. Dim ond hyn a hyn o addasu gall dramodydd ei wneud i’r nofel heb newid y nofel i fod yn nofel wahanol, a dwi’n credu y buasai’n rhaid fod wedi cael nofel wahanol (well?) er mwyn creu drama well. Ond faint a aeth yno gyda’r gobaith a’r disgwyliad eu bod yn mynd i weld y nofel ar lwyfan? Nifer go fawr buaswn i’n tybio, a dwi’n siŵr nad oedden nhw wedi’u somi a bod nifer sylweddol wedi mwynhau y noson yn fawr iawn.

Rhagor o luniau o’r noson.

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>