A fydd e’n gwerthu ar eBay?

Hwre! Mae rhywun wedi rhoi cynnig ar yr eitem gyntaf imi ei gosod i’w gwerthu ar eBay. Dwi’n gynnwrf i gyd. Roeddwn i wedi bod yn mynd yn ôl i edrych ar y peth ddydd ar ôl dydd a dim yn digwydd. Roedd BL wedi dweud ei bod hi’n bwysig cael y disgrifiad yn iawn er mwyn denu’r prynwr i weld beth oedd gen i’w werthu. Mae gen i y gymaint o drugareddau o gwmpas Plas-yn-Dogfael oherwydd fy holl ffadiau fel dwi’n mynd i fod yn brysur yn gwerthu am fisoedd i ddod. Pan fydda i wedi gwerthu yr eitem gyntaf a chael fy nhalu a phopeth efallai y gwna i fentro gosod rhyw ddau neu dri o eitemau ar-lein yr un pryd. Ymhlith y pethau y mae’n bosib y bydda i’n eu gwerthu mae fy set galigraffi nad ydw wedi’i chyffwrdd o gwbwl (fel newydd) a fy set dyfrlliwiau nad ydw i ond wedi’i defnyddio unwaith neu ddwywaith, ac wedyn yr holl lyfrau ‘na dwi wedi’u prynu ond heb eu darllen ac heb fod yn rhyw debygol iawn o wneud. Efallai mae busnes llewyrchus yn gwerthu ar eBay yw’r ateb i’m problemau gofod i. Wrth gwrs, un o’r pethau dwi’n mwynhau ei wneud fwyaf yw twrio trwy fy holl drugareddau i weld beth fydda i’n dod ar ei draws. Mae ‘na bethau yno nad ydw i’n cofio imi erioed eu prynu! Dyna ichi gonsumeriaeth wedi mynd yn ddwl. Dwi’n teimlo’n euog dim ond wrth feddwl am y peth. Efallai y bydd hyn yn gyfle imi droi dalen newydd a chael gwared ar bethau yn hytrach na dim ond crynhoi mwy a mwy o bethau’n gyson. Cawn weld.

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>