Noson mas
Neithiwr fe fues i mas gyda chydweithwyr am ddiod wedi’r gwaith yn nhafarn Varsity. Dim ond am ryw awr roeddwn i wedi meddwl aros ond yn y diwedd roedd rhai ohonon ni yno nes bod hi wedi naw o’r gloch. Roedd yn rhaid imi fynd adref wedyn achos roeddwn i wedi addo gorffen ysgrifennu erthygl ar gyfer Y llan, papur newydd yr Eglwys yng Nghymru. Pam wnes i aros cyhyd? Oherwydd y cwmn difyr, wrth gwrs, ac am fod gen i gynulleidfa yn barod i wrando ar fy hanesion am y peth hyn a’r peth arall. Ond fe droes y noson i mewn i ryw fath o seminar hyfforddiant ar sut i ddefnyddio eBay i werthu a phrynu. Mae Dr HW wedi bod yn sôn llawer am y bargeinion sydd i’w cael ar eBay, a dwi wedi cofrestru o’r diwedd i fod yn brynwr ac yn werthwr ar y wefan. Roedd BL yn dweud wrthon ni neithiwr sut i deilwra disgrifiad er mwyn cael cwsmeriaid. Mae hi’n hen law ar y gwaith. Byddaf fi’n dweud wrth y blog os ydw i’n llwyddiannus.

![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)

Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael