Ar ôl holl addewidion y rhai sy’n darogan y tywydd am eira heddiw mae’n rhaid imi gyfaddef taw’r peth cyntaf wnes wedi dihuno am 5.45am oedd ‘neidio’ mas o’r gwely (neu’r dynwarediad gorau y gallaf i ei wneud o ‘neidio’) er mwyn edrych i weld faint o drwch o eira oedd ar lawr. O fy siom! Dim eira o gwbwl. Dwi’n dal i edrych drwy’r ffenest wrth imi ysgrifennu hyn o flog, a dwi’n dal i ddisgwyl i weld un plufyn. Ond dwi’n byw mewn gobaith, oherwydd pan ddaw eira fe ddaw yn sydyn ac o fewn llai nag awr fel all y lle fod yn wyn. Er taw dim ond drwg yw eira mewn gwirionedd o ran diogelwch a anhwylustod, eto mae ei allu i barluso gwlad gyfan dros nos yn ein hatgoffa ni nad ydyn ni’n rheoli popeth eto. Mae angen ein hatgoffa o hynny’n eithaf aml y dyddiau hyn. ‘Ta beth, mae’n bosib y gwelwn ni ychydig o’r sdwff gwyn cyn diwedd y bore.

![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael