Mae’n rhaid fy mod wedi gosod tipyn o record i fi fy hun wrth imi fynd i weld drama arall o fewn ychydig wythnosau i’r profiad gwych hwnnw yn Neuadd Goffa Tregaron pan welais i Meini gwagedd gan James Kitchener Davies. Heno bues i weld cynhyrchiad diweddaraf y Cwmni Theatr Cenedlaethol, sef addasiad Siôn Eirian [...]
Gan bod cymaint wedi gwneud cais am le ar Fwrdd yr Iaith, efallai ei bod hi’n haws i’r rhai sydd heb wneud ddatgan eu hunain. Felly rwyf yn datgan i’r blog ac i’r holl fyd nad ydw i, Dogfael, wedi gwneud cais i fod ar y Bwrdd Iaith. Dwi’n gobeithio’n fawr fod hynny’n help.
Heddiw yw Dydd mamiaith rhyngwladol sef cyfle i ddathlu amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol. Dynodwyd y diwrnod felly gan Unesco yn 1999, ond mae iddo hanes fel diwrnod i ddathlu hawliau ieithyddol. Ar y diwrnod hwn yn 1952 lladdwyd nifer o brotestwyr gan yr heddlu yn Nwyrain Pakistan (Bangaladesh, erbyn hyn) wrth iddyn nhw brotestio yn [...]
Mae hyfforddwraig bywyd o’r Taleithiau Unedig, Marsha Egan wedi cael llawer o sylw am ei bod wedi dyfeisio rhaglen 12-cam i bobol sy’n gaeth i’w he-bost. Mae wedi gwneud hynny ar batrwm 12 cam y mudiad Alcoholics Anonymous. Ar ei gwefan mae’n rhestru rhai pethau a allai fod yn arwyddion eich bod chi’n gaeth i’ch [...]
Nos Wener diwethaf cefais gyfle i siarad gyda Chylch Cinio Aberystwyth. Nawr buasai ‘na rai pobol yn cadw’n glir o noson o’r fath gan eu cyhuddo o fod yn ffurf ar seiri rhyddion Cymraeg. Dwi’n siŵr y buaswn i wedi gwneud yr un cyhuddiad yn y gorffennol. Mae unrhyw gymdeithas “gaeëdig” o’r fath yn medru [...]
Hwre! Mae rhywun wedi rhoi cynnig ar yr eitem gyntaf imi ei gosod i’w gwerthu ar eBay. Dwi’n gynnwrf i gyd. Roeddwn i wedi bod yn mynd yn ôl i edrych ar y peth ddydd ar ôl dydd a dim yn digwydd. Roedd BL wedi dweud ei bod hi’n bwysig cael y disgrifiad yn iawn [...]
Dwi’n credu imi fod yn dyst i ddigwyddiad hanesyddol heno, un o’r trobwyntiau diwylliannol hyn’na sy’n digwydd nawr ac yn y man. Heno fe welais i’r blog Cymraeg yn dod i oed a hynny yng nghanolfan Morlan, Aberystwyth. Doeddwn i ddim yn rhyw siŵr beth i’w ddisgwyl – roedd y cyhoeddiad yn dweud taw T. [...]
Neithiwr fe fues i mas gyda chydweithwyr am ddiod wedi’r gwaith yn nhafarn Varsity. Dim ond am ryw awr roeddwn i wedi meddwl aros ond yn y diwedd roedd rhai ohonon ni yno nes bod hi wedi naw o’r gloch. Roedd yn rhaid imi fynd adref wedyn achos roeddwn i wedi addo gorffen ysgrifennu erthygl [...]
Mae eira yn sdwff hud, mae’n medru troi oedolion yn blant unwaith eto. Dyna yw fy mhrofiad i. Wrth wylio’r eira’n disgyn ddydd Iau a dydd Gwener diwethaf yr oeddwn yn teimlo’n debyg iawn i sut roeddwn i yn Ysgol Preseli slawer dydd – deng mlynedd ar hugain a mwy yn ôl bellach. Oherwydd i [...]
Roedd hi’n sioc fawr i glywed ar y newyddion fod Brian Williams wedi marw. I ddweud y gwir DJP ddywedodd wrtha i fod y stori ar y newyddion ac mae’n rhaid imi ddweud nad oeddwn yn fodlon ei gredu. Er mwyn gwneud yn siŵr dyma ffonio adref i Fynachlog-ddu ac fe wnaeth fy nith gadarnhau [...]
Mae’r holl fusnes twrcis ‘ma yn achosi penbleth i mi. Rhyw flwyddyn yn ôl roedd pawb yn cael eu hannog i fyw mewn ofn dychrynllyd o H5N1. Cymaint yr ofn fel bod y wasg Brydeinig yn ei chrynswth wedi disgyn ar bentref diarffordd yng Nghwrdistan pan dybiwyd fod ffliw adar ar gwpwl o ieir yno. [...]
Mae unrhyw sefydliad sy’n llwyddo i wneud i Geraint Jones (Geraint Twm), Trefor i ymddangos yn rhesymol a chymedrol yn haeddu rhyw fath o gydnabyddiaeth ar Flog Dogfael. Wel, dwi wedi gwylio’r wyrth honno’n digwydd ar rifyn yr wythnos hon o’r rhaglen deledu Y byd ar bedwar a’r sefydliadau anrhydeddus oedd yn gyfrifol am wneud [...]
Dwi’n ffaelu’n deg â chredu’r peth. Digwydd bod yn brigo’r we roeddwn i pan ddes i ar draws rhestr o eiddo oedd ar werth yn ardal Llandysilio a Chlunderwen. A fusech chi’n talu £200,000 am hwn hyd yn oed gyda chanitâd cynllunio.
Llandissilio, Clynderwen, Pembrokeshire SA66 7HL
£ 200,000
* Property type: other
[...]
Wrth imi agor drws Plas yn Dogfael i fynd i’r gwaith roedd popeth wedi newid, fel y dywedais. Mae wedi dechrau bwrw eira ac mae’r gwynt yn chwythu. Bant â fi i weld beth a ddigwydd.
Ar ôl holl addewidion y rhai sy’n darogan y tywydd am eira heddiw mae’n rhaid imi gyfaddef taw’r peth cyntaf wnes wedi dihuno am 5.45am oedd ‘neidio’ mas o’r gwely (neu’r dynwarediad gorau y gallaf i ei wneud o ‘neidio’) er mwyn edrych i weld faint o drwch o eira oedd ar lawr. O fy [...]
Mae’n beth ofnadwy i orfod cyfaddef ond roeddwn i’n grac cyn 7.30am yn y bore. Efallai na fyddwch yn synnu cymiant i glywed fy mod yn grac pan dwi’n dweud taw’r Aelod Cynulliad hwnnw, Alun Cairns, oedd wedi ennyn y fath deimladau ynof y peth cyntaf. Does dim rhaid iddo hyd yn oed agor ei [...]
Dyma enghraifft wych yn dangos gallu y ffotograff i gofnodi llawer mwy nag oedd hi’n fwriad gan y crewr. Yr oedd ef neu hi yn canolbwyntio ar brif wrthrych y llun, sef y fenyw yn y ffrog lachar. Yn y cefndir yr oedd ‘na un yn eistedd yn darllen ei lyfr nad oedd syniad gan [...]
Dwi’n teimlo braidd yn euog fy mod heb gydnabod na rhannu gyda’r blog ambell i anrheg hyfryd o dramor ar lun lluniau o Siopau Spar. Bu RhJ yn garedig iawn i anfon llun i mi o siop Spar yn nhref Monkontour, Llydaw yn yr haf (2006!).
Wedyn jyst cyn Nadolig fe gefais ddau lun o siopau [...]
Dyma lun o’r blodau oedd wrth yr allor yn Eglwys y Santes Fair, Aberystwyth ddydd Sul diwethaf.
Rhagor o luniau o’r blodau yn Eglwys y Santes Fair, Aberystwyth 2007-02-04.
Does dim angen imi ddweud wrth neb yn y Gymru Gymraeg taw’r part mwyaf diflas am fod yn rhan o fudid gwirfoddol neu ymgyrchu yw’r ymdrech gyson i godi digon o arian i ganiatáu i’r mudiad rydych chi’n rhan ohono wneud ei waith – boreau coffi, teithiau cerdded noddedig, &c. Mae rhedeg ac ariannu plaid [...]