Mae mynd i ffwrdd am dair wythnos o wyliau yn bleser pur, ond nawr wedi dod yn ôl dwi’n ofni bod cymaint o bethau wedi bod yn disgwyl amdanaf fel nad ydw i wedi cael cyfle i droi at y blog o gwbwl. Ond mae pethau yn wahanol bellach. Roedd yn rhaid imi sôn am nos Wener diwethaf pan aeth criw ohonon ni mas i fwyty Gannets yng nghwmni Angharad Tomos. Roedd hi ar ei ffordd i lawr i gynhadledd yn Sir Benfro ar y Sadwrn a’r Sul wedi’i threfnu gan Academi. Roedd hi, RAJ a DJP yn mynd yno. Ond nos Wener yr oedd hi’n aros yn Aberystwyth ac felly cyfle inni fynd mas. Cafwyd noson ddifyr iawn gydag Angharad yn adrodd ambell i stori ddiddorol. Cefais i ddarn o benfras fel fy mhrif gwrs ac roedd yn flasus iawn.

![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael