Oherwydd bod Scherpenheuvel ar gau roedd hi’n haws inni fynd yn ôl i Leuven i ddod o hyd i rywbeth i’w fwyta yn hytrach na chwilio yn Diest. Felly roedd hi’n rhyw 3.30pm arnon ni’n bwyta ac yn yfed rhwybeth. Roeddwn i’n llwgu ac yn sychedig; doedd hynny ddim yn syndod achos roedd y ddau ohonom ni wedi bod yn siarad gydol yr amser am bopeth, ond yn bennaf am wleidyddiaeth iaith yng Nghymru a Fflandrys. A doedd hynny ddim yn mynd i ddod i ben achos roedd Liesbeth wedi trefnu imi gwrdd ag un o weithredwyr iaith Fflandrys Ivan a hynny dros swper mewn bwyty poblogaidd iawn yng nghanol Leuven, De Wiering.
Mae’n hawdd iawn gadael i’r sefyllfa gyffredinol yng Ngwlad Belg ddallu rhywun i rai sefyllfaoedd sydd yn achosi llawer o ofid i Fflandryswyr o siaradwyr Iseldireg. Esboniodd Ivan a Liesbeth beth yw’r problemau y mae siaradwyr Iseldireg yn eu hwynebu ym Mrwsel a’r ardal o gwmpas. O fewn y ddinas ei hun mae’r gallu i ddelifro gwasnaethau Iseldireg wastad o dan bwysau. Dywedodd Liesbeth am y goddefiad o dair blynedd a roddir i weithwyr yn y sector cyhoeddus, megis yr heddlu, i ddysgu Iseldireg, ond bod hi’n arferol i gyfnod heddwas ddod i ben ar ôl dwy flynedd a hanner a bod heddweision newydd yn eu lle wedyn sydd â thair blynedd arall i ddysgu Iseldireg. Y mae gan Liesbeth brofiad uniongyrchol o’r diffyg dwyieithrwydd yn y gwasanaethau iechyd ac fe adroddodd hanesion oedd yn swnio’n debyg iawn i’r sefyllfa yng Nghymru. Yn debyg i Gymru nid yw dwyieithrwydd Brwsel yn un cytbwys – nid yw’r siaradwyr Ffrangeg yn aml iawn yn gwybod digon o Iseldireg i gynnig gwasanaeth mewn Iseldireg, ond mae’r Fflandryswyr yn ddwyieithog fel arfer, ac yn bedair ieithog yn aml iawn. Felly mae tuedd i siaradwyr Iseldireg dderbyn gwasanaeth mewn Ffrangeg heb gwyno. Yn yr un modd mewn gweithleoedd bydd cyfarfodydd yn newid iaith er mwyn un siaradwr Ffrangeg hyd yn oed os yw pawb arall yn y cyfarfod yn siarad Iseldireg. Does dim angen imi ddweud pa mor gyfarwydd yw hynny i ni!
Ond y sefyllfa yn y cymunedau o gwmpas Brwsel oedd yn poeni’r ddau fwyaf, y cymunedau sy’n swyddogol yn rhan o Fflandrys gydag Iseldireg yn unig fel iaith swyddogol a’r chwe chymuned hynny sydd yn cynnig “adnoddau ieithyddol” i’w trigolion. Dywedodd Ivan am ymgyrch mudiad o’r enw TAK, Taal Aktie Komitee (Pwyllgor Gweithredu Ieithyddol) yn y cymunedau hyn. Roedd ganddo lawer o esiamplau o sut roedd Ffrangeg yn troi yn iaith arall swyddogol yn y cymunedau gydag adnoddau ieithyddol ar batrwm dwyieithrwydd swyddogol Brwsel, ond yn groes i fwriad y gyfraith ieithyddol a roddodd fodolaeth i’r adnoddau ieithyddol yn y lle cyntaf. Mae’r adnoddau ieithyddol wedi’u cyfyngu i rai meysydd penodol – yr hawl i wneud cais blynyddol i dderbyn gwybodaeth swyddogol oddi wrth yr awdurdodau mewn Ffrangeg, yr hawl i gael addysg mewn Ffrangeg. Ond yn raddol mae’r hawliau yma wedi ymledu ac mae’r cymunedau yn gweithredu yn gwbl ddwyieithog gan gynnig pob mathau o wasanaethau ychwanegol mewn Ffrangeg nad oedd yn fwriad gan y drefn adnoddau ieithyddol – arwyddion dwyieithog ar y strydoedd, swyddogion dwyieithog yn y neuaddau tref, gwasanaethau yn cael eu cynnig yn ddwyieithog heb orfod gwneud cais amdanynt – ac yna hynny yn ei dro yn arwain at ddwyieithrwydd ac unieithrwydd Ffrangeg mewn siopau a busnesau preifat yn y cymunedau hynny. Mewn cymunedau lle nad oes adnoddau ieithyddol i siaradwyr Ffrangeg mae bygythiad i natur ieithyddol y gymuned yn medru bod yn debyg – mewnfudwyr yn newis iaith siopau a busnesau, ac er nad oes ganddynt hawl i addysg mewn Ffrangeg yn anfon eu plant i Frwsel i dderbyn addysg Ffrangeg. Yn raddol maent yn creu cymunedau bychan Ffrangeg o fewn i’r cymunedau hyn ac wrth i fwy a mwy o fewnfudwyr Ffrangegn ymuno â hwy gwelir natur ieithyddol y cymunedau hynny hefyd yn newid. Yr hyn sy’n achos rhwystredigaeth iddynt hwy yw nad yw hyn i fod i ddigwydd o dan y ddeddf.
Mae TAK yn gweithredu mewn ffordd sy’n ymddangos yn debyg iawn i ddulliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn 1970au a’r 1980au sef trwy baentio arwyddion stryd sydd yn ddwyieithog a hynny’n groes i’r ddeddf. Diwrnod neu ddau yn gynt roedd TAK wedi gwneud hyn yng nghymuned Sint-Genesius-Rode gan gynnwys paentio arwydd oedd yn dweud taw enw’r lle oedd “ Rhode-Saint-Genèse”a thorri ar draws y seremoni derbyn y cynghorwyr newydd gan bod nifer ohonynt yn gwneud hynny yn Ffrangeg yn ogystal ag Iseldireg. Roedd hyd yn oedd y llwn neu’r datganiad yn achosi gwrthdaro. Ers i lywodraeth leol ddod o dan awdurdod Llywodraeth Fflandrys fe newidwyd y llw o fod yn un i’r brenin ac i Wlad Belg i fod yn ddatganiad syml i gadw a gweithredu deddfau Fflandrys, ac wrth ni ddarparwyd fersiwn Ffrangeg gan nad yw Ffrangeg yn un o ieithoedd swyddogol Fflandrys. Ond yn y cymunedau gydag adnoddau ieithyddol i siaradwyr fe ddefnyddiodd y cynghorwyr Ffrangeg eu hiaith yr hen lw Ffrangeg. Ceisiodd TAK dorri ar draws hyn.
Yn y gorffennol mae TAK wedi gweithredu yn erbyn siopau a busnesau sydd yn defnyddio Ffrangeg mewn cymunedau yn sydd i fod yn swyddogol Iseldireg. Un weithred ddiddorol oedd un yn hydref 2006 pan trefnwyd gwrth-brotest i ymgyrch hysbysrwydd gan gwmni teledu Brwsel a oedd yn mynd â’i garafan cymunedol uniaith Ffrangeg i gymunedau a oedd yn swyddogol yn unaith Iseldireg. Dywedodd Liesbeth ac Ivan fod y sefyllfa yn gwaethygu wrth i siaradwyr Ffrangeg chwilio am dai rhatach a chymdeithas ddiogelach yn bellach ac yn bellach o Frwsel ei hun – er nad ydynt yn gofyn am hawliau ieithyddol yn y cymunedau hynny maent yn llwyddo i greu cymdeithasau Ffrangeg o fewn i’r cymunedau hyn a byw eu bywydau bron yn gyfangwbl trwy gyfrwng Ffrangeg. Oherwydd gallu ieithyddol Fflandryswyr a diffyg gallu ieithyddol Walwniaid mae’n arferol i siaradwyr Iseldireg droi i siarad Ffrangeg hyd yn oed yn y cymunedau hyn. Fy nghwestiwn i oedd beth oedden nhw’n medru ei wneud am hyn? Nid oedd atebion go iawn ganddynt yn fwy nag oedd gen i, dim ond dweud ei bod yn rhaid iddynt brotestio a sicrhau fod y dedddfau ieithyddol yn cael eu parchu a’u gweithredu yn iawn gan eu bod hwy’n bodoli a’u bod yn cefnogi yr hyn yr oedden nhw’n ymgyrchu drosto.
Ar ôl clywed hynn’na i gyd roeddwn i’n teimlo’n ychydig yn fwy calonogol am Gymru mewn ffordd o siarad. Oherwydd os oedd hi mor anodd gwrthsefyll newidiadau cymdeithasol-ieithyddol mewn gwlad lle’r oedd y ddeddf o’ch plaid, roedd gwneud hynny yng Nghymru hyd yn oed yn fwy anodd ac yn fwy o her. O’r gorau, dwi’n gwybod nad yw hynny’n llawer o gysur!
Oedd, roedd hi’n drafodaeth hir iawn, ond mae’n rhyfedd sut mae sefyllfaoedd tebyg yn medru wynebu pobol mewn sefyllfaoedd sy’n ymddangos yn wahanol iawn ar yr olwg gyntaf. Roedd hi bron â bod yn 9.00pm erbyn inni orffen ein bwyd a’n sgwrs ac roeddwn i am fynd am Frwsel er mwyn cyrraedd y fflat ar awr nad oedd yn rhy hwyr. Mae trenau yn mynd i Frwsel bob hanner awr gyda’r nos ac fe gyrhaeddais Centraal Station erbyn 10.00pm. O fewn rhyw chwarter awr roeddwn i yn ôl yn Anderlecht ac yn barod i gysgu. Dwi ddim yn credu imi siarad cymaint ers blynyddoedd. O nid ydym wedi gorffen ein trafodaeth, yr ydym wedi trefnu i gwrdd ddydd Sul ym Mrwsel!


![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael