Efallai bod trafnidiaeth gyhoeddus yn dda yng Ngwlad Belg, ond dyw hynny ddim yn wir am safon y gyrru gan yrwyr preifat. Efallai eu bod nhw’n arfer cymaint ar deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus fel eu bod nhw’n anghofio beth yw i ystyried cerddwyr na gyrrwyr eraill. Bydd gyrwyr yn ceisio troi rownd mewn unrhyw amgylchiad, [...]
Dwi ddim yn ddyn comics, a dwi ddim yn debygol o droi yn un chwaith, ond mae’n rhaid mi gyfaddef fy mod wedi mynd yn unswydd i’r Belgisch centrum van het beedverhaal, Canolfan Gomics Gwlad Belg, er mwyn ceisio deall beth yw tynfa bandes dessinées. Mae’r ganolfan mewn adeilad art nouveau a gynlluniwyd gan y [...]
Roeddwn i wedi bwriadu aros o gwmpas Anderlecht heddiw ond yn y pen draw dyma fi’n cael fy nhynnu i mewn i ganol Brwsel unwaith eto. Er fy mod wedi dweud fod Brwsel â gormod o eglwysi mawr, i fod yn gwbl gywir rhaid imi ddweud taw dim ond ers 1962 y mae Eglwys Sint-Michelskathedraal [...]
Oherwydd bod Scherpenheuvel ar gau roedd hi’n haws inni fynd yn ôl i Leuven i ddod o hyd i rywbeth i’w fwyta yn hytrach na chwilio yn Diest. Felly roedd hi’n rhyw 3.30pm arnon ni’n bwyta ac yn yfed rhwybeth. Roeddwn i’n llwgu ac yn sychedig; doedd hynny ddim yn syndod achos roedd y ddau [...]
Y peth agosaf yng Nghymru at ganolfan bererindota yw Treffynnon, ond oherwydd hanes mae’r dre honno wedi gorfod troi at ddulliau eraill o wneud bywoliaeth. Mae’ r un peth yn wir siŵr o fod am nifer o drigolion Scherpenheuvel, ond mae’r basilica sy’n ganolbwynt i ddefosiwn y pererinion yn sefyll reit yng nghanol y dref, [...]
Dwi wedi bod ym Mrwsel am dros bythefnos bellach, ond dwi ddim wedi cael sgwrs wleidyddol iawn gan lawer o neb. Mae fy landlordiaid yn siaradwyr Ffrangeg o Frwsel ac heb ryw lawer o gydymdeimlad gyda’r safbwynt Ffllandrysaidd i ddweud y lleiaf. Maen nhw’n credu fod popeth yn iawn heblaw am ambell benboethyn. Heddiw roeddwn [...]
Y noson honno wedi dod adref o Genk roedd hi’n weddol hwyr a doedd dim llawer o chwant coginio dim byd arna felly dyma fentro i mewn i frituur (siop sglodion) leol i brynu swper. Nawr mae’n ddigon hawdd gofyn am rywbeth siop sglodion pan yr ydych chi’n gwybod enw beth rydych chi eisiau, ac [...]
Pan ofynnais i am docyn Genk yn y swyddfa docynnau yn Centraal Station fe edrychodd y dyn tu ôl y gwydr arna i mewn syndod. A dyma fe’n gofyn “Genk? Genk yn sir Limburg?” Mae’n rhaid ei fod yn sylweddoli nad oeddwn yn siradwr Iseldireg brodorol ac yn methu’n deall pam fy mod yn mynd [...]
Doedd ‘na ddim man lle nad oedd Leopold II am adael ei ôl a hynny mewn modd enfawr oes oedd yn bosib. Roedd gan Brwsel eglwys fawreddog hynafol yn barod yng nghanol y ddinas, Eglwys SS Mihangel a Goedele, ond credai Leopold fod angen eglwys “genedlaethol” ar y wladwriaeth newydd ac felly aeth ati i [...]
Wedi’r ymweld ag amgueddfa BELvue roeddwn i wedi cael blas ar amgueddfeydd ac felly dyma groesi Koningsplein i’r amgueddfeydd celfyddyd gain – dathliad arall o Wlad Belg mewn ffordd. Yma y ceir tystiolaeth amlwg i gyfoeth y darn yma o dir o’r cyfnod cynnar hyd at heddiw yn y paentiadau rhyfeddol ar furiau’r amgueddfeydd. Mae’n [...]
Wedi dydd Calan tawel iawn fe fues i mewn i ganol Brwsel ddydd Mawrth. Y tro hwn roeddwn am ymweld ag amgueddfa BELvue. Mae hon yn amgueddfa arbennig sy’n dathlu hanes Gwlad Belg. Wrth gwrs nid yw hynny’n hanes arbennig o hir, mae’n cychwyn yn 1831. Wrth gwrs roedd ‘na hanes gan y darn o [...]
Dim ond tro bach mas heddiw rownd canol Anderlecht. Ac fe wnaeth un peth fy nharo i wrth imi wylio baner Anderlecht yn chwifio wrth y gofeb ryfel; petai Merched y Wawr yn penderfynu symud eu pencadlys o Aberystwyth yna Anderlecht fyddai’r lle perffaith iddyn nhw ddewis gan fod Anderlecht a’r mudiad yn rhannu’r un [...]
Dwi’n siŵr bod y rhan fwyaf o ymwelwyr ag Amgueddfa Frenhinol Canolbarth Affrica ddim yn sylwi ar yr ychydig arwyddion ffyrdd y mae’n rhaid mynd heibio iddynt ar y llwybr o’r orsaf dramiau i’r amgueddfa. Ond i’r rhai sydd â llygaid i weld y fath bethau fe fydden nhw’n sylwi fod yr arwyddion hynny yn [...]
Bron nad oes angen ichi ymweld ag Affrica i gael profiad o’r lle os ydych chi’n digwydd byw yng nghyffiniau Brwsel a hynny oherwydd un arall o gynlluniau cwbl echreiddig y brenin Leopold II, sef Koninlijk museum voor Midden-Afrika (KMMA, Amgueddfa Frenhinol Canolbarth Affrica). Does dim llawer allwch chi ddweud o blaid y dyn mewn [...]
|