Gwahoddiad, 2006-12-28

Brwsel 2006-12-28 003Heno fe gefais i wahoddiad i ymweld â fy landlordiaid. Maen nhw’n gwpwl diddorol ac fe ddysgais ychydig yn fwy amdanyn nhw wrth sgwrsio tros lasiad o gwrw abaty. Cafodd Mme Dieu ei geni yn y Congo lle’r oedd ei thad yn swyddog cyfreithiol. Bu’r teulu yn mudo rhwng Gwlad Belg a fan ‘ny hyd nes yr enillodd y Congo ei hannibyniaeth yn 1960. Wedyn bu’n astudio ym mhrifysgol Leuven pan roedd y protestiadau iaith ar eu hanterth ac un o’r pethau yr oedd hi’n gyfrifol am ei wneud oedd didoli llyfrau llyfrgell y brifysgol pan sefydlwyd prifysgol Ffrangeg Louvain-le-Neuve. Aed trwy casgliad cyffredinol y llyfrgell bryd hynny gan rannu’r llyfrau rhwng y ddwy brifysgol. Hanes difyr iawn. Yr oeddwn wedi dysgu tipyn am M. Dieu yn gynt, ond fe gefais wybod bod ganddo gysylltiadau â Gwlad Pwyl oherwydd i deulu ei fam ddod oddi yno wedi rhyfel 1939-1945.

Roeddwn wedi rhoi CD Sian James iddyn nhw yn anrheg Nadolig ac arweiniodd hynny i drafodaeth am gerddoriaeth Geltaidd a ches wybod eu bod nhw’n cymryd eu gwyliau yn gyson yn Llydaw ac yn arbennig yn ardal Lannuon. Aethon ni yn ein blaenau i drafod gwleidyddiaeth iaith Gwlad Belg ac fe wnaethon nhw fy holi pam fy mod i mor hoff o’r lle. A dyma fi’n esbonio am ddwyieithrwydd rhyfeddol Brwsel a phan wnes i ddweud am enwau’r gorsafoedd ar y metro a’r hyn oedd yn digwydd yng Nghymru (Rhondda Cynon Taf / Rhondda Cynon Taff) fe ddechreuon nhw ddeall beth oedd yn fy nenu!

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>