Noswyl Nadolig, 2006-12-24

Eglise evangelique internationale de Bruxelles, BrwselMae heddiw a ‘fory yn mynd i fod yn ddiwrnodau gweddol dawel. Fe wnes i ofyn i’m landlord a oedd ‘na eglwys Brotestannaidd yn lleol ac fe wnaeth roi gwybod imi fod ‘na eglwys efengylaidd ar Bregensesteenweg jyst rownd y cornel o’r lle’r oeddwn i’n aros. Dyma alw heibio nos Sadwrn i weld ble roedd hi, ac roedd hi’n nes nag unrhyw le arall o addoliad ac felly dyma benderfynu taw dyna lle fydden i’n addoli ar y Sul. Roedd hi’n disgrifio ei hun fel Eglwys Efengylaidd Ryngwladol a doeddwn i ddim yn rhyw sicr beth i’w ddisgwyl. Roedd yr arwydd yn dweud bod addoliad y Sul yn dechrau am 10.30am ac felly dyma fi’n mynd yno erbyn yr amser. Cefais groeso cynnes ond ychydig oedd yno, ac yna fe wnes i ddeall taw rhyw amser amhendant iawn oedd y 10.30am, rhyw fath o nod i bobol ceisio ymgyrraedd tuag ato, oherwydd awr a hanner yn ddiweddarach roedd ‘na bobol yn dal i gyrraedd yr eglwys. Yr holl amser hyn roedd ‘na weddïo a chanu. A dyna lle daeth agwedd ryngwladol yr eglwys yn amlwg. Roedd y gweithgaredd i gyd yn Ffrangeg a Sbaeneg gydag unrhyw beth oedd yn cael ei ddweud yn Ffrangeg yn cael ei gyfieithu ar y pryd i Sbaeneg. Roedd y gynulleidfa hefyd yn adlewyrchu yr amrywiaeth ethnig sydd yn Anderlecht a Brwsel yn gyffredinol, er na chlywais air o Iseldireg yna’n raddol dros yr awr a hanner nesaf dyma’r lle yn dechrau llenwi, nes bod rhyw saithdeg yno i gyd, erbyn hynny roeddwn i’n teimlo ei bod hi’n amser – roedd hi’n ymddangos imi fod y rhan fwyaf o’r gynulleidfa, a oedd yn rhyw 70 erbyn imi adael am ryw 12.30pm, a phan roedden nhw ond yn dechrau twymo at y gwaith. Efallai bod rhai yn meddwl fy mod yn gul iawn fy mod wedi mynd i chwilio am eglwys Brotestannaidd, ond dwi mewn cwmni da. Pan ddaeth Charlotte ac Emily Brontë i Frwsel i ddysgu Ffrangeg yn 1842 roedden nhw hefyd wedi chwilio am eglwys Brotestannaidd, ond dwi’n siŵr ei bod dipyn bach yn wahanol i’r eglwys y bues i ynddi heddiw.

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>