Mae’n anodd pwysleisio pa mor bwysig oedd ac yw Prifysgol Leuven, neu’n hytrach Prifysgol Gatholig Leuven, oherwydd mae’n dal i ddod o dan awdurdod yr Eglwys Babyddol yng Ngwlad Belg ac mae’n cael ei hadnabod wrth y llythrennau KUL, Katholieke Universiteit Leuven. Tyfodd y brifysgol fesul coleg gyda charfannau a sefydliadau yn agor eu colegau eu hunain ar hyd a lled y ddinas. Felly ar un stryd ar ôl y llall ceir colegau bach a mawr sy’n dal i fod yn rhan o’r brifysgol, a rhai sydd bellach wedi’u hanghofio ac wedi cau neu, rhywbeth sy’n digwydd ym mhobman, troi’n swyddfeydd gweinyddol i’r brifysgol.
Un peth roeddwn i am ei wneud oedd dod o hyd i olion y coleg a sefydlwyd yma gan y dyneiddiwr mawr Erasmus yn 1517. Fe wnes i sefyll arholiad Hanes ar gyfer Safon Uwch yn yr ysgol flynyddoedd yn ôl bellach. Y cyfnod yn hanes Ewrop y bu’n rhaid ei astudio oedd y Dadeni a’r Diwygiadau Protestannaidd a Chatholig. Roedd fy athro hanes yn wych, dwi’n dal i gofio’r gwersi hynny tan heddiw, ac roedd ei gariad at ei bwnc yn amlwg yn y ffordd yr oedd e’n ein dysgu ni. Ef a wnaeth ennyn fy niddordeb yn y Dadeni, ac yn seren lachar y ‘mudiad’ hwnnw sef Erasmus (1469-1536). Mae Erasmus yn ddyn byw inni heddiw oherwydd iddo ysgrifennu cymaint ac oherwydd bod cynifer o’i lythyron wedi’u cadw. Yr oedd yn ysgolhaig gwych yn un oedd am fynd yn ôl at destunau gwreiddiol gweithiau clasurol gan gynnwys yr ysgrythurau Cristnogol ac Iddewig. Yn y broses fe ddaeth yn feirniadol o rai agweddau ar fywyd yr eglwys yn y gorllewin. Yn Leuven fe sefydlodd yr hyn sy’n cael ei alw yn goleg tairieithog er mwyn astudio Groeg, Hebraeg a Lladin ac er mwyn annog diwygiad ym mywyd yr eglwys. Yn anffodus iddo yntau fe ddewisodd gwneud hynny yn yr union flwyddyn y dechreuodd Martin Luther ar ei brotest yntau dros ddiwygio’r eglwys ac fe aeth y Babaeth yn eithaf llugoer ar unrhyw drafodaeth am ddiwygio. Felly daeth cynllun mawr, dyneiddiol Erasmus i ben yn ddiseremoni ac ymadawodd â Leuven yn 1521 gan aros yn Anderlecht ar ei ffordd i’r Swistir lle bu farw heb ddychwelyd i’r Iseldiroedd.
Nid dim ond Erasmus fu’n gyfrifol am sefydlu coleg yma. Sefydlwyd rhai o’r bymthgefed ganrif ymlaen gan gynnwys Coleg y Brenin a sefydlwyd gan Philp II yn 1579 a Choleg y Pab a sefydlwyd gan y Pab Adriaan VI yn 1523. Mae hwnnw erbyn heddiw mewn adeilad clasurol sy’n debyg iawn i’r hyn a fuasech chi’n disgwyl ei weld yn Rhydychen neu Gaer-grawnt. Mae nifer o adeiladau o’r math yma yn y brifysgol, er bod ‘na gampws modern hefyd ar gael. Bu’r colegau yma yn gartref i’r ddysg ddiweddaraf yr oes gan gynnwys Justus Lipius a Mercator. Troes y coleg hefyd yn ganolfan ar gyfer hyfforddi cenhadon Pabyddol ar gyfer yr ardaloedd hynny oedd wedi troi at Brotestaniaeth. Mae dau o’r colegau hynny yn sefyll yn agos at ei gilydd, sef y Coleg Gwyddelig a sefydlwyd gan Ffransisciad o Iwerddon yn 1601 a Choleg Holand a sefydlwyd yn 1617. Un o’r darlithwyr yng Ngholeg Holand oedd Jansenius a roes fodolaeth i fudiad Jansenistiaeth.
Chwaraeodd y coleg ran bwysig hefyd yn hanes modern Gwlad Belg wrth i’r wladwriaeth geisio dod i delerau â’r ffaith ei bod wedi’i rhannu’n ieithyddol. Yn y 1960au roedd newidiadau cyfansoddiadol yn digwydd a oedd yn sefydlu’r ffin ieithyddol yn barhaol. Bryd hynny roedd Ffrangeg ac Iseldireg yn cael eu defnyddio fel ieithoedd dysgu ym Mhrifysgol Gatholig Leuven, ond oherwydd ei bod mewn ardal Iseldireg ei hiaith fe ddaeth llawer i’r gredu nad oedd hi’n iawn caniatáu defnyddio Ffrangeg bellach fel iaith dysgu. Nid oedd yr awdurdodau eglwysig yn fodlon â hyn gan ddatgan y buasai’r ddwy iaith yn cael eu defnyddio – y canlyniad oedd protestiadau a gwrthdaro gyda’r awdurdodau a barhaodd am flynyddoedd hyd nes iddynt ildio i gri’r protestwyr i “anfon Ffrancwyr Walonia adref”. Cytunodd y llywodraeth i sefydlu prifysgol newydd Louvain-le-Neuve yn ardal Ffrangeg y wlad. Erbyn heddiw ceir rhyw 25,000 o fyfyrwyr yn y brifysgol a defnyddir Iseldireg a Saesneg fel ieithoedd dysgu, ond mae’n ymddangos nad yw hynny’n poeni llawer o neb bellach.

![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)

Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael