Dydd Nadolig ym Mrwsel, 2006-12-25 (2)

Sion Corn, AnderlechtDwi ddim yn credu imi sôn hyd cyn hyn am natur ‘Nadolig’ yma ym Mrwsel. Fel dwi wedi sôn mae ganddyn nhw eu harferion eu hunain. Ond yn anffodus maen nhw fel eu bod wedi’u cymysgu gyda’r elfennau hynny o ddathlu’r ‘Nadolig’ sydd wedi’u datblygu yn y diwylliant Eingl-Americanaidd na ellid ond eu disgrifio fel di-chwaeth. Ar hyd strydoedd Anderlecht ceir Sionau Corn yn dringo i fyny ysgolion ar ochr tai ac i mewn i’r balconau a rheiny wedi’u haddurno â goleuadau. Yn waeth na hynny yn y gorsafoedd metro ac ar hyd y strydoedd y gerddoriaeth sy’n cael ei chwarae yw unrhyw gân sydd ar “The greatest Christmas album in the world… ever”. Beth sy’n bod? Sut allen nhw fod wedi gwneud y fath beth? Mae gan gyfalafiaeth ryngwladol llawear i’w ateb amdano, dim ond gobeithio y bydd yn rhaid iddi wneud cyn bo hir a chyn bod diwylliant yr holl fyd wedi’i sarnu gan ei dylanwad diflas.

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

1 sylw ar Dydd Nadolig ym Mrwsel, 2006-12-25 (2)

  • Huw W

    >Ar hyd strydoedd Anderlecht ceir Sionau Corn yn dringo i fyny ysgolion ar ochr tai ac i mewn i’r balconau a rheiny wedi’u haddurno â goleuadau.

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>