Brwsel, 2006-12-26 (1)

Berlaymont, BrwselWedi dau ddiwrnod gweddol dawel dyma fynd ati i deithio ychydig unwaith eto. Es i ddim yn bell iawn dim ond draw i’r ardal Ewropeadd a sefyll tu fas i gartref y Comisiwn Ewropeaidd a Chyngor y Gweinidogion. Mae’r Comisiwn yn ymgartrefu mewn adeilad ar siâp seren ar Schumanrondplein (mae’n swnio’n fwy rhamantus o roi iddo’i enw Iseldireg, y cyfan yw mewn gwirionedd yw cylchfan draffig!) o’r enw Berlyamont. Mae’r adeilad yn edrych yn fwy dynol nag y mae ar y newyddion, ond dyw hi ddim hawdd iawn gwneud i swyddfeydd edrych yn ddiddorol iawn, maen nhw’n dueddol o fod yn fiwrocrataidd o yn eu hanfod. Yr unig liw oedd baner yn dymuno Nadolig Llawen i holl drigolion yr Undeb Ewropeaidd yn holl ieithoedd swyddogol yr Undeb, ac ystyr hynny yw nad oedd dymuniad Cymraeg yno, er bod neges mewn Malteg. Ar draws y ffordd i Berlyamont mae adeilad Cyngor y Gweinidogion neu Adeilad Justus Lipsius (wedi’i enwi ar ôl athronydd a oedd yn dysgu ym Mhrifysgol Leuven) mewn carreg sy’n edrych fel marmor pinc, ond does bosib eu bod nhw wedi gwario cymaint â hynny wrth ei godi.

Adeilad Justus Lipius, Brwsel

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>