Brwsel, 2006-12-23

Torfeydd yn Grote marktWedi crwydro o gwmpas Leuven trwy’r dydd roeddwn i wedi blino’n lân, ond ddim gormod i fynd yn ôl i’r Grote markt ym Mrwsel er mwyn profi’r arddangosfa sain a goleuni ar gyfer y Nadolig wedi’i threfnu gan Gyngor y ddinas mewn cydweithrediad â chwmni trydan cenedlaethol Gwlad Belg, Electabel. Dwi ddim yn gwybod beth yw e, ond maen rhyfedd sut mae rhywbeth cwbl gyffredin fel ychydig bach o sŵn a golau gwahanol liw yn medru hudo hyd yn oed oedolion calon-galed. Ac fe ges i fy hudo gan hyn i gyd hyd i mi ddechrau dadansoddi beth oedd yn digwydd. Roedd ‘na garw yn carlamu dros adeiladau’r Grote markt ac yna fel petai bodau all-fydol yn ceisio dod i gyswllt â’r ddynoliaeth. Roedd ‘na filoedd yno yn gwrando ac yn gwylio, felly mae’n dda gwybod fod ‘na eraill sydd yr un mor sentimental â mi ym Mrwsel.

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>