Fy nydd Sadwrn cyntaf ym Mrwsel ac mae’n amser imi fynd yn bellach eto o fy nyth yn Democratiestraat. Heddiw dwi wedi penderfynu mynd i Leuven – i’r connoisseuriaid ym mhlith darllenwyr y blog bydd enw’r ddinas hon yn cael ei chysylltu â’r Stella Artois, ond efallai y bydd eraill yn ymwybodol taw dyma gartref un o brifysgolion enwocaf Ewrop. Un peth da yw nad yw’n anodd cyrraedd Leuven o Frwsel, ac wrth gwrs yn dilyn fy mawlgan i drafnidiaeth gyhoeddus Brwsel dyw hynny ddim yn syndod. Yr hyn dwi’n ei feddwl mewn gwirionedd yw bod Leuven yn gymharol agos at y brif ddinas gyda threnau’n rhedeg yn gyson ar hyd y deugain cilomedr y daith. O fewn rhyw hanner awr o adael gorsaf Brussel Centraal roeddwn i’n cerdded ar hyd Bondgenotenlaan, y stryd sy’n arwain o orsaf Leuven i ganol yr hen ddinas. Ond nid rhyw stryd gefn yw hon, dyma brif stryd siopa’r ddinas gyda phob math o nwyddau ar werth gan gynnwys y dillad mwyaf ffasiynol a drud i ddynion a menywod. Nid dyna’r math o beth sy’n mynd â’m sylw i fel arfer, ond allwn i ddim peidio â sylwi ar y peth. Mae’n amlwg fod hyn yn denu pobol i Leuven oherwydd roedd y pafin yn drwch o bobol yn prynu ar gyfer y Nadolig.
Os oedd Bondgenotenlaan yn dweud pa mor gyfoethog yw’r Leuven fodern, nid oedd yn ddim o’i gymharu â’r modd yr oedd y Stadhuis, neu Neuadd y dref, yn dweud am gyfoeth y gorffennol. Unwaith eto nid oes modd dweud neu ddisgrifio neu ddylunio sut beth yw hi i sefyll o flaen yr adeilad hwn. Gall ffotograff ddim dechrau â gwneud chwarae teg gyda’r peth. Mae ffotograff yn medru dangos sut mae’r lle yn edrych i’r llygad, ond nid yw’n medru rhoi’r profiad o faint a gwychder y cyfan wrth edrych arno yn y fan a’r lle. Fel neuaddau dinas Brwsel a nifer o ddinasoedd eraill Fflandrys, roedd y Stadhuis yn ddatganiad gan henuriaid y dref eu bod nhw’n bwysig, yn gyfoethog, ac yn bwerus. Daeth y llwyddiant i’r ddinas trwy’r diwydiant defnydd yn ystod y cyfnod pan roedd Fflandrys o dan reolaeth dugiaid Bwrgwyn, ac yn arbennig felly Filips de Goede (Philip Dda) fel Iarll Fflandrys (1419-1467). Er bod cychwyn ei gyfnod fel Iarll wedi arwain at wrthdaro â dinasyddion nifer o’r dinasoedd fe lwyddodd i greu’r awyrgylch ar arweiniodd at lewyrch economaidd a diwylliannol.
Fe wnaeth Leuven fanteisio ar hyn hyd yr eithaf. Yn wir yn y cyfnod hwn y sefydlwyd prifysgol Leuven yn 1425 gan y Pab Martin V a Dug Brabant. Yn wir erbyn yr G16 dyma un o brif brifysgolion yn Ewrop gyda dros 6,000 o fyfyrwyr a 52 coleg. Cyn hyn i gyd roedd Leuven yn ganolfan i’r diwydiant bragu cwrw ac mae’r ddinas heddiw yn gartref i un o’r bragwyr enwocaf, sef Stella Artois.
Canu carolau tu fas i’r Stadhuis, Leuven.

![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael