Teithio o gwmpas Brwsel, 2006-12-22

Dechreuodd y dydd heddiw fel arfer erbyn hyn (os yw dau ddiwrnod yn arfer!) gyda brecwast a wedyn tro i’r cybercafé lleol i gadw trefn ar fy negeseuon e-bost a blogio. Wedi gosod y sylfeini ddoe roeddwn i’n teimlo’n barod i hedfan ychydig yn bellach oddi wrth y nyth heddiw ac felly dyma gymryd y metro i mewn i ganol y ddinas.

Bws, Anderlecht, BrwselMae sustem drafnidiaeth Brwsel a Fflandrys (a Walonia hefyd am wn i) i’w rhyfeddu ati. Mae’n ymddangos fel petai rhywrai wedi’i chynllunio a’i hariannu’n ddigonol iddi weithio’n effeithiol. Ym Mrwsel mae’r rhan fwyaf o’r drafnidiaeth gyhoeddus yn cael ei rhedeg gan y ddinas trwy MIVB (Maatschappij voor het Intercommunaal Vervoer te Brussel, neu Cwmni Trafnidiaeth Rhyng-gymunedol Brwsel). Nhw sy’n gyfrifol am bysus, y tramiau a’r metro ym Mrwsel. Ond gan fod Brwsel yn gorwedd yn Fflandrys mae cwmni bysus cyhoeddus y gymuned honno hefyd yn gwasanaethu’r ddinas, De Lijn. Yn ogystal bydd bysus yn dod i’r brif ddinas o Walonia ac mae y cwmni bysus cyhoeddus y gymuned honno, TEC, hefyd yn gwasnaethu rhannau o’r ddinas. Yn olaf mae’r cwmni trenau cyhoeddus, sy’n eiddo i’r llywodraeth ffederal NMBS (Nationale Maatschappij der Belgische Spoorwegen, Cwmni Cenedlaethol Rheilffyrdd Gwlad Belg) hefyd yn gwasanaethu’r ddinas. A’r hyn sy’n wych yw fod yr holl ddulliau yma wedi’u hintegreiddio gyda modd mynd o fws i drên i dram ne i fetro yn gwbwl ddidrafferth. Mae’n bosib hefyd prynu pob math o docynnau sy’n gweithio gyda phob un o’r gwasanaethau uchod!

Anodd credu fod y peth yn bosib wrth edrych ar beth sydd wedi bod yn digwydd yng Nghymru, er mae’n rhaid imi gyfaddef fod pethau wedi gwella rhyw ychydig dros y dwy neu dair blynedd ddiwethaf ac mae’n ymddangos fod rhyw ymgais i adlewyrchu sustem debyg i un Brwsel/Fflandrys. Mae tipyn i fynd eto, ond mae’n ddechrau.

Gorsaf metro Sint-Guido, AnderlechtYn ogystal mae’r tocynnau yn rhyfeddol o rad. Gallwch brynu tocyn diwrnod i deithio ar drafnidiaeth MIVB, De Lijn, TEC ac NMBS yn y ddinas am €4.00 – rhyw £3.20. Mae mwy o fargeinion ar gael. O’r herwydd mae’n bleser teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus ar y cyfan. Yr unig beth sydd yn fy nharo i yw ei bod hi’n eithaf anodd i’r rhai ag anableddau ar y cyfan yn enwedig y rhai mewn cadair olwynion – dyw’r tramiau na’r metro yn rhyw gyfeillgar iawn iddyn nhw ar y cyfan, er bod hynny’n newid.

Yn Anderlecht mae ‘na orsaf metro newydd, eang a glân ac oddi yno fe ellir mynd mewn i ganol y ddinas mewn rhyw wyth munud. O’r tu fas i’r orsaf fe ellir dal bysus a tramiau MIVB, a bysus De Lijn. Prynais i docyn diwrnod sy’n cael ei alw’n De dagkaart jump, Y tocyn diwrnod naid. Dwi ddim yn gwybod pam yr enw Saesneg oni bai eu bod nhw yn ei ddefnyddio fel ffordd o osgoi defnyddio Iseldireg neu Ffrangeg.


Gorsaf Sint-Guido, Anderlecht

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>