Fe wnes i deithio o orsaf metro Sint Guido hyd at orsaf De Broukère yn y canol. Ar y ffordd yr oeddem yn mynd trwy orsaf wedi’i henwi ar ôl un o blant enwocaf Brwsel sef y canwr Jaques Brel. Yn bellach i lawr y lein o Sint Guido ceir grosaf wedi’i henwi ar ôl y beiciwr enwog Eddy Merkx. Wedi cyrraedd y canol dyma gerdded o’r orsaf i Muntplein. Yno roeddwn i’n cofio bod ‘na siop lyfrau Iseldireg ac roeddwn i’n chwilio am eiriadur a phapur newydd er mwyn ymarfer. Digwyddais i gyrraedd y siop bron ar amser cinio ac o fewn ychydig funudau roedd y siop dan ei sang. Maen nhw’n dweud taw amser cinio yw’r amser prysuraf mewn siopau llyfrau Iseldireg ym Mrwsel am fod cymaint o siaradwyr Iseldireg yn dod i mewn i’r ddinas i weithio yn ystod y dydd, ond yn gadael bob nos i fynd adref i Fflandrys ‘go iawn’ i dreulio’r nos. Felly yn ystod y dydd mae llawer o Iseldireg i’w chlywed ar y strydoedd oherwydd eu bod yn dod i weithio yn swyddfeydd Llywodraeth Cymuned Fflandrys sydd yn y ddinas.
Cefais i fy ngeiriadur a’m cylchgrawn, ond roedd yn rhaid imi ymuno â chwt oedd yn mynd yr holl ffordd o gwmpas y siop er mwyn talu. Gyda’r Nadolig yn dod roedd llawer yn prynu anrhegion ac roedd yn siop yn cynnig gwasanaeth lapio. Roedd y siop yn llawn llyfrau Iseldireg, gydag ychydig o rai Saesneg. Ar y llawr gwaelod ceid cylchgronau, dvd’au, llyfrau plant, llyfrau coginio, gosod blodau, iechyd, a DIY. Ar y llawr cyntaf ffuglen, barddoniaeth, hanes, taith a mapiau. Ar yr ail lawr llyfrau ar gyfer ysgol a choleg, ieithoedd, seicoleg, cyfrifiaduron, cyfraith a chrefydd. Beth oedd yn ddiddorol i mi oedd er bod y llyfrau mewn Iseldireg roedd nifer fawr iawn ohonynt yn gyfieithiadau neu addasiadau o Saesneg. Er enghraifft roedd llyfrau Dan Brown yn amlwg iawn yn yr adran ffuglen, ac yn yr adran goginio roedd Jamie Oliver yn frenin. Mor debyg ac eto mor wahanol.

![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael