Koninklijke Muntschouwburg, 2006-12-22

Koninklijke Muntschouwburg, BrwselRoedd ‘na reswm arall dros wneud fy ffordd tuag at Muntplein oherwydd yno y saif y Koninklijke Muntschouwburg (Theatr Frenhinol y Munt, neu’r Bathdy) ac mae’r theatr yn chwarae rhan allweddol yn hanes Gwlad Belg. Yma y mae cartref y cwmni opera cenedlaethol ac yn y tŷ opera hwn y dechreuodd y ‘chwyldro’ a arweiniodd at annibyniaeth Gwlad Belg. Wedi blynyddoedd o fod yn rhan o ymerodraeth Hapsburg fe gipiwyd yr ardal yr ydym yn ei hadnabod heddiw fel Gwlad Belg gan Ffrainc weriniaethol. Yn dilyn cwymp Napoleon penderfynodd y pwerau mawrion taw’r ffordd i atal Ffrainc rhag edrych tua’r gogledd oedd ffurfio teyrnas unedig o’r tiroedd hynny a feddiannwyd gan Ffrainc hynny a’r Iseldiroedd o dan frenin yr Iseldiroedd. Iseldireg oedd iaith y deyrnas a’r brenin yn Brotestant; nid oedd hynny’n plesio siaradwyr Ffrangeg Pabyddol Walonia ac yn 1830 fe gafwyd gwrthryfel ym Mrwsel. Dechreuodd hynny yma yn ystod perfformiad o opera Auber La muette de Portici pan ganwyd deuawd arbennig o wladgarol “Amour sacré de la Patrie”. Yn dilyn y gwrthryfel galwyd cyngres genedlaethol ac yng Nghynhadledd Llundain 1831 fe gydnabuwyd annibyniaeth Gwlad Belg a chydnabod ei safle niwtral. Ond roedden nhw heb frenin felly dyma chwilio o gwmpas am frenin sbâr. Roedd ‘na ddigon o gwmpas y lle yn Ewrop y pryd hynny a’r dyn a dderbyniodd y swydd oedd Leopold o Saxe-Coburg, ewythr i Victoria, a oedd wedi gwrthod Gwlad Groeg flwyddyn yn gynt! Fe’i coronwyd yn Leopold I, ond doedd hynny’n plesio dim ar yr Iseldirwyr a dyma hwy yn ceisio meddiannu’r wlad, ond bu’n rhaid iddynt dynnu yn ôl wedi i Leopold ofyn am gymorth Ffrainc. Roedd hi’n 1839 cyn i’r Iseldiroedd gydnabod beth oedd wedi digwydd. Efallai bod hyn wedi plesio siaradwyr Ffrangeg Walonia, ond bu’n rhaid i siaradwyr Iseldireg Fflandrys aros am dipyn o amser cyn gweld cydnabod eu hiaith hwy. Am hanner can mlynedd cyntaf ei bodolaeth gwladwriaeth Ffrangeg ei hiaith oedd Gwlad Belg ac fe wnaeth hynny greu pob math o broblemau yn ddiweddarach yn ei hanes. Ond dyna damaid o hanes Gwlad Belg i’ch cadw nes daw’r pryd nesaf.

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>