Ffair Nadolig Brwsel 2006-12-22

Marchnad Nadolig BrwselCefais ginio mewn bwyty Tsieineaidd y g nghanol Brwsel; bargen am €6.80, sef pryd y dydd. Cawl sur a thwym i gychwyn ac yna ffowlyn mewn nwdlau reis gydag wy a llysiau eraill. Wedyn roeddwn i’n barod i grwydro’r canol. Dros gyfnod y Nadolig bydd yr ardal yma yn cael ei thrawsnewid yn llwyr wrth i’r Kerstmarkt, neu’r Farchnad Nadolig, feddiannu’r lle. Yn y strydoedd o gwmpas Grote markt mae ‘na ugeiniau o siediau pren er bod yn gartref i stondinau amrywiol y ffair. Fel mae’r rhai sy’n fy adnabod i dwi ddim yn ddyn ffeiriau, ond er bod ‘na ychydig o elfennau tebyg i ffair yn Aberystwyth – ceffylau bach fan hyn a fan ‘co ar gyfer y plant – mae’r pwyslais ar y cyfan ar werthu nwyddau a bwyd.

Stondin yn y ffair Nadolig, BrwselO ran nwyddau roedd ‘na amrywiaeth fawr yn cael eu gwerthu fel anrhegion yn bennaf, ac o ran bwyd roedd ‘na stondinau yn gwerthu bwyd i’w fwyta yn y fan a’r lle a’r gweddill yn gwerthu bwyd i’w fynd ar gyfer yr ŵyl fel foie gras a chaws o bob math. Roedd ‘na lawer stondin yn gwerthu diodydd – cwrw (wrth gwrs) a gwin sbeis – ond y stondin a aeth â’m sylw i oedd un yn dweud ei bod yn gwerthu ’siocled poeth traddodiadol’. Roeddwn i’n disgwyl rhywbeth gwahanol a Belgaidd, i ddweud y gwir doedd e ddim yn wahanol i siocled poeth traddodiadol Aberystwyth, ond roedd e’n flasus iawn er gwaethaf hynny.

Grote markt, BrwselDoedd dim stondinau yn Grote markt ei hun ond yn y canol roedd ‘na goeden Nadolig a thu fas i Balas Dugau Brabant roedd ‘na olygfa’r geni wedi’i gosod allan. Fel arfer roedd y sgwâr yn llawn pobol o dros y byd i gyd a phawb gyda’u camerâu llonydd a fideo yn croniclo’r safle rhyfeddol hwn. Mae’n anodd disgrifio mewn geiriau na chipio mewn ffotograff pa mor arbennig yw Grote markt; dim rhyfedd ei bod wedi’u rhestru gan UNESCO fel rhan o’n hetifeddiaeth fyd-eang.

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

1 sylw ar Ffair Nadolig Brwsel 2006-12-22

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>