Y fflat ar Democratiestraat, 2006-12-21

70 DemocratiestraatEfallai ei bod yn bryd imi ddweud ychydig am y fflat lle’r rwy’n aros. Fe ddes i o hyd iddo trwy wefan Bed and Brussels, asiantaeth sy’n trefnu llety i ymwelwyr â’r ddinas mewn tai cyffredin a chyda theuluoedd. Mae’n ffordd llawer rhatach nag aros mewn gwesty. Allwn i ddim fod wedi fforddio hynny. Ond wrth aros mewn fflat fel hyn dwi’n arbed talu pris gwesty ac yn cael lle i goginio bwyd syml. Nawr dwi’n gwybod fod hyn yn medru gwneud imi swnio’n fên, ond mae’n well gen i wario ar bethau eraill y tro hwn.

Mae’r fflat yn rhyw fath o ystafell wely ond gydag ardal fyw, cegin, tŷ bach a chawod en suite. Dwi’n siŵr na fuasai’n ddigon da i rai, ond dwi wedi setlo mewn yn iawn ac yn dechrau ymgartrefu yma. Nid nad ydw i’n teimlo ychydig hiraeth, mae hynny ond yn naturiol. I ddweud y gwir fe fues i’n ceisio ffonio a chysylltu gyda phobol heddiw ar ôl imi sorto pethau mas gyda’r ffôn yn lled lwyddiannus. Dwi wedi cael ymateb gan MJ drwy destun, ond dim o gwbl gan y gweddill, ac wedyn heno fe fues i’n ceisio ffonio pobol – rhai ddim yn ateb, rhai yn brysur, ond fe gefais air gyda DML!

Mae’r landlordiaid yn byw uwch fy mhen, ond prin fy mod yn eu gweld. Efallai y bydd hynny’n newid rhyw ychydig dros y tair wythnos dwi’n mynd i fod yma. Mae’n lle digon cysurus a dwi’n gobeithio y bydda i’n dal i deimlo’n hapus gyda’r lle erbyn diwedd fy nghyfnod yma.

Ystafell wely
Fe wnes i gysgu fel blocyn neithiwr, gobeithio y bydd hi’n parhau felly.
Ystafell wely

Ystafell fyw
Mae’r landlordiaid wedi darparu llond silffoedd o lyfrau am hanes Brwsel ac mae’r teledu yn un sy’n derbyn degau ar ddegau o sianeli mewn ieithoedd dirifedi.
Ystafell fyw

Y gegin
Popeth sy’n angenrheidiol bron. Yr unig beth sydd ei eisiau yw peiriant golchi dillad, ond mae ‘na olchdai yn weddol agos at y fflat, felly fe ddylsen i fod yn iawn.
Y gegin

Tŷ bach
Iawn.
Ty bach

Edrych ar hyd y fflat
Fel y gwelwch chi yn y llun hwn mae’r un ystafell hir sydd yma wedi’i rhannu’n ardaloedd gyda llenni.
Fflat

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>