Fy mhryd o fwyd cyntaf, 2006-12-21

Fy mhryd cyntafRhan o’r rheswm dros aros lle’r ydw i ym Mrwsel yw fy mod yn medru coginio gyda’r nos a felly gwneud i’r arian fynd damaid bach yn bellach. Felly dwi’n teimlo’n falch iawn fy mod wedi gwneud fy mhryd cyntaf o fwyd gan ddefnyddio’r adnoddau cymharol gyfyng sydd yma. Gwnes i ddim anelu’n uchel iawn, rhyw ragu bach syml gyda rigantoni, ond fe weithiodd yn iawn ac mae gen i ddigon ar gyfer nos yfory ac efallai nos Sadwrn. Bydda i’n bwyta mas amser cinio, ond dwi’n bwriadu dod adref bob nos i gael swper felly mae’n dda medru gwneud rhywbeth fydd yn gwneud am ychydig ddyddiau. Y pryd nesaf dwi’n meddwl ei wneud yw cawl ffacbys.

Dyma’r pryd cyntaf imi ei goginio yn y fflat. Sylwch fy mod yn yfed Spa coch gyda’r pryd, sef dŵr Spa gyda ychydig o nwy ynddo. I orffen fe gefais gwpanaid o goffi gyda chacen fach ’seren’ a banana.

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

2 sylw ar Fy mhryd o fwyd cyntaf, 2006-12-21

  • Bues i’n siopa mean siop Delhaize. Ni welais i ddŵr o Gymru ar werth yno, ond byddaf yn cael golwg eto rhag ofn imi fethu rhywbeth.

  • Ble ydych chi’n mynd i siopa?

    Pan yr oeddwn yn Brwsel haf dwytha, es i, i Robs dwi’n meddwl sef archfarchnad. Roedd yn wahanol iawn i unrhyw Tesco. Archfarchnad gyda naws delicatessen.

    Er fawr syndod i mi, roedd y silffoedd gyda dŵr potel yn llond rhai Cymreig fel Ty Nant, Llan Llyr, Tau a Decantae (cael ei fotelu ddim yn bell o fi!) er yr oedd disgwyl i Evian a Vittel fod yn fwy blaengar.

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>