Anderlecht 2006-12-21 (2)

Dwi ddim wedi bod i weld dim o ogoniannau Anderlecht eto sy ddim yn llawer, ond yn rhagor nag yr oedd M. Dieu yn fodlon ei gyfaddef – Eglwys SS. Pedr a Guido, y Begijnhof, Tŷ Erasmus, yr Amgueddfa Geuze (math o gwrw lleol), Stadiwm Vandenstock (cartref Clwb Pêl-droed Anderlecht) ac Amgueddfa y Résistance – fy mwriad yw eu ‘gwneud’ nhw i gyd yn eu tro. Ond cyn gwneud hynny rhaid yw dod i nabod y lle er mwyn gwybod sut i fynd o gwmpas. Felly wedi cinio ar y sgwâr ym mar-gaffi De Rinck dyma fynd yn ôl â’r negeseuon roeddwn i wedi’u prynu i’r fflat a dechrau chwilio i’r cyfeiriad arall.

Fel y dywedais i mae ‘na ffordd brysur ar y pen arall i Democratiestraat, ac ar hyd-ddi ceir pob math o siopau a busnesau. Ceir nifer o garejys yn gwerthu ceir, ond ceir hefyd fusnesau eraill – siop fawr DIY (maen nhw’n dweud taw cariad tuag at DIY yw un o’r unig bethau sy’n uno Gwlad Belg), PiliPili (siop gornel agor-bob-awr-o’r-dydd-a’r-nos sy’n cael ei rhedeg gan siopwr o dras Asiaidd), tŷ bwyta Thai/Tsieineaidd La Cigonne, golchdy, siop flodau, siop siocled gyda chwt yn ymestyn mas trwy’r drws i’r stryd, ac archfarchnad fawr Delhaize.

Felly dyna fi wedi gwneud fy fforio am y dydd. Yfory byddaf yn mentro ychydig yn bellach o’r fflat.

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>