Anderlecht (1) 2006-12-21

Canol AnderlechtEfallai taw’r lle gorau imi ddechrau yw trwy ddweud rhywbeth am yr ardal ym Mrwsel lle dwi’n aros. Mae Anderlecht yn un o’r pedwar plwyf ar bymtheg sy’n ffurfio Cymuned Prifddinas Brwsel ac yn un o’r maestrefi cyntaf i ddatblygu o gwmpas dinas Brwsel ei hun. Yn y rhan fwyaf o’r plwyfi yn nghymuned y brifddinas mae Ffrangeg yn iaith fwyafrifol amlwg, ond yma yn Anderlecht mae ‘na fwy o gymysgedd, gyda siaradwyr Iseldireg i’w clywed yn gyson ar y stryd. Eto i gyd Ffrangeg yw’r iaith gyffredin yn y siopau a dyna’r iaith a ddefnyddir i’ch cyfarch wrth ddod i mewn bob amser. Heddiw fe es i ar daith i geisio dod i adnabod yr ardal ychydig bach yn well. Yn ôl M. Dieu, fy landlord, dim ond rhyw un neu ddau o bethau gwerth eu gweld sydd yn y plwyf, ond doedd e ddim yn sylweddoli fy mod i’n dwli ar archfarchnadoedd ac unrhyw beth os ydyn nhw’n ddwyieithog neu’n Iseldireg, neu’n wahanol.

Mae Democratiestraat yn ardal breswyl yng nghanol siopau a swyddfeydd. Ar un pen i’r stryd mae’r y gellid ei alw yn ganolfan Anderlecht. Ceir siopau, ac ysgolion yno ynghyd â gorsafoedd bysus, tramiau metro. O fewn llai na deng munud mae’n bosib ichi fod reit yng nghanol y brif ddinas. Dyna lle dwi’n bwriadu mynd yfory. Ar y pen arall mae ‘na ffordd fawr brysur, Bergensesteenweg gyda mwy o siopau, a nifer fawr o garejys yn gwerthu ceir a phetrol. Heddiw fe wnes i dreulio’r rhan fwyaf o f’amser yn yr hyn yng nghanol Anderlecht.

Fe godais yn gymharol hwyr a mynd mas am dro i’r sgwâr yn y canol ac i’r ardal siopa gerllaw, sef Wayezstraat. Ond y lle cyntaf imi alw ynddo oedd y cybercafé lleol. Ffrangeg oedd yr iaith yr oedd yn rhaid imi ei defnyddio yno ac fe aeth popeth yn iawn nes imi anghofio beth oedd y Ffrangeg am ‘ddeg ar hugain’ ac ar unwaith dyma’r dyn oedd yn gweini yn troi i’r Saesneg. Mae 30 (trente, gyda llaw!) munud o frigo’r we yn costio €0.79. O fan’ny dyma fi’n cael cyfle i ddiweddaru fy mlog ac yn anfon ychydig o negeseuon e-bost. Dyw’r lle ond rhyw bum munud o’r fflat ac felly dwi’n credu y byddaf yn gwsmer cyson.

WayezstraatYr hyn sydd wastad yn fy nharo i am drefi ac am ddinasoedd ar dir mawr Ewrop yw cyn lleied o siopau cadwyn sydd i’w gweld. Mae ‘na rai, ond mae ‘na siopau bach annibynnol i’w gweld yn y strydoedd mawr. Yn Anderlecht roedd ‘na siopau cig a physgod a chaws bach yn ogystal â’r siopau mwy cadwynol eu naws ar Wayezstraat. Bues i mewn siop lyfrau ac offer ysgrifennu, ond diolch byth fe gefais y nerth i ymddál rhag prynu’r holl binnau a phapur ysgrifennu oedd yn y lle. Yn ddiddorol iawn doedd ‘na ddim llyfrau Iseldireg yn y siop o gwbwl, ac felly mae’n rhaid fod ‘na siop arall ar gyfer y rheiny. Wedi hynny bues mewn siop fwyd gadwyn Delhaize yn prynu bwyd ar gyfer y nos ac yn dechrau casglu yr hyn fydd ei angen ar gyfer y Nadolig. Dwi ddim yn mynd i wneud llawer iawn ddydd Nadolig ei hun, ond bydd hi’n rhaid imi wneud rhai trefniadau cyn y diwrnod mawr.

Canolfan De RinkWedyn dyma fentro i le yr oeddwn wedi darllen amdano ar y rhyngrwyd, sef canolfan gymdeithasol Iseldireg De Rink. Mae’r ganolfan yn un o gadwyn o ganolfannau tebyg sydd ar hyd a lled Brwsel wedi’u hariannu gan Gymuned Fflandrys er mwyn rhoi ffocws i siaradwyr Iseldireg y brif ddinas. Mae rhyw 15-20% o boblogaeth y ddinas yn siarad Iseldireg, ond maen nhw’n cael eu colli mewn môr o Ffrangeg a Saesneg bellach. Felly mae’r canolfannau hyn yn fan iddyn nhw ddod at ei gilydd a defnyddio Iseldireg yn naturiol. Fel rhan o’r ganolfan yn Anderlecht mae ‘na far sy’n gwneud bwyd ac roeddwn i am ymarfer ychydig ar fy Iseldireg felly dyna’r lle naturiol i fyd, ond roeddwn i’n nerfus hefyd rhag ofn na fyddwn i’n deall dim. A rhaid cyfaddef na ddeallais bopeth, ond deallais ddigon a chael fy neall hefyd i archebu Croque monsieur gyda Coca Cola light a phaned o goffi i ginio. Wedyn dyma fentro ychydig yn fwy a gofyn i’r dyn wrth y bar beth oedd y cod i wneud galwad ffôn i’r Deyrnas Gyfunol, cefais fy ateb +44, ond roedd gofyn y cwestiwn wedi dweud wrtho fod yn rhaid fy mod yn siarad Saesneg os oeddwn am ffonio fan’na ac felly dyma fe’n troi i siarad Saesneg. Bues i’n gadarn a chadw ati i siarad Iseldireg gwael (iawn) ac fe droes yntau yn ôl ati hefyd. Buddugoliaeth fechan iawn dros Saesneg ym Mrwsel, ond eto roedd yn fuddugoliaeth.

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>