Cyrraedd Brwsel 2006-12-20

Brwsel, nos Fercher 2006-12-20

Ar ôl yr holl betruso a gofid a breuddwydio mae’r peth yn realiti a dyma fi’n eistedd mewn ystafell yn Anderlecht yn adrodd hanes y diwrnod o deithio o Aberystwyth i Frwsel.

Mae’n rhyfedd beth mae teithio’n medru ei wneud. Mae’n medru eich trosglwyddo o un byd i un arall. Y bore ‘ma roeddwn i yn Aberystwyth, a dyma fi heno ym Mrwsel – byd sy’n gwbl wahanol ar un llaw, ac eto sy’n hynod o debyg i’r byd y gwnes i adael y bore ‘ma mewn cymaint o ffyrdd. I’r rhai sy’n hedfan i bedwar ban byd o Iguazu i Uluru, o’r Taj Mahal i Svalbaard does dim rhyw lawer o antur mewn neidio ar y trên yn Aberystwyth a theithio i Frwsel. Ond dyna ni, dyna faint o antur sydd ynof fi a dim mwy.

Gorsaf Eurostar, Waterloo, LlundainGan bod teithio yn beth mor gyffredin bellach a symudedd pobol yn golygu bod Pwyliaid yn gweithio yn Aberystwyth a Chymry a’u cymdeithas eu hunain ym Mrwsel dyw’r antur ddim cweit cymaint, ond roedd y teithio yn dal i fod yn eithaf anturus. Yn rhyfeddol fe aeth y daith o Aberystwyth i Lundain yn gwbl ddidrafferth gyda’r trên yn cychwyn ar amser am 7.29am. Y tro cyntaf i hynny ddigwydd o fewn cof! Cyrhaeddodd trên Arriva orsaf Stryd Newydd Birmingham ar amser hefyd ac roedd hi’n bosib dal y trên i Lundain am 10.30am a chyrraedd Euston mewn amser i gyrraedd Waterloo Rhyngwladol gyda digon o amser mewn llaw.

Mae’n rhaid bod y mwyafrif o drigolion tir mawr Ewrop yn dychwelyd i Baris a Brwsel am y Nadolig ar y trên Eurostar gan fod yr orsaf o dan ei sang. (Clywais wedyn bod nifer o deithiau awyrennau wedi’u canslo oherwydd y niwl trwm yn ne ddwyrain Lloegr a bod nifer o’r teithwyr wedi ymuno â’r Eurostar er mwyn bod adref ar amser.) Roedd apeliadau am i bobol nad oedden eu trenau yn barod i beidio ag ymuno gyda’r cwt i fynd trwy’r tollau nes eu bod yn cael eu galw. Roedd hynny yn rhoi rhyw awr a hanner imi dreulio. Y cyfan fedra i ei ddweud yw bod gorsaf Waterloo gyda’r mwyaf diflas. Nawr dwi’n gwybod nad yw unrhyw orsaf yn ffair o brofiadau diddorol, ond o’i chymharu ag Euston roedd hon yn ddiflas. Ond wedi anfon ychydig negeseuon testun at hon a’r llall fe wnaeth yr amser fynd yn ei flaen ac fe ddaeth yn amser ymuno â’r cwt.

Yn gyntaf roedd yn rhaid casglu’r tocynnau oddi wrth y peiriannau tocynnau. Mae hyn yn medru bod yn her hyd yn oed i’r mwyaf galluog. Ar yr wyneb mae’n ymddangos yn ddigon syml. Mewnosod eich cod cwsmer, rhoi eich cerdyn talu yn y twll pwrpasol, ac yna mae’ch tocynnau yn cael eu hargraffu. Ond ystyriwch yr hyn a allai fynd o’i le – cam deipio’r cod, rhoi’r cerdyn i mewn y ffordd anghywir, teipio’r cod yn gywir, rhoi’r cerdyn i mewn y ffordd anghywir, teipio’r cod yn gywir a chael y cerdyn i mewn y ffordd gywir. Do, yn y diwedd fe lwyddais! Roeddech chi’n cael dau docyn yn ôl; un ar gyfer y daith allan a’r llall ar gyfer y daith ‘nôl. Mae’n rhaid rhoi’r tocyn i mewn i beiriant er mwyn cael mynediad i’r tollau a’r ystafell aros ac fe wnes i ddefnyddio’r tocyn dychwelyd yn lle’r un allan! Roedd y dyn yn edrych arna i mewn syndod, ond pan ych chi’n ceisio cario’ch cês, eich bag llaw, eich pasport, eich tocyn a’ch cot mae’n dipyn o job.

Cinio gyda Syr Gawain yn ystafell aros Eurostar, Waterloo, LlundainRoeddwn wedi tynnu fy nghot oherwydd roedd hynny’n gais wrth ichi fynd trwy’r tollau a’r gat ddiogelwch. Rhaid oedd tynnu pob peth metel a’i roi yn bag llaw ac roedd yn rhaid ichi anfon popeth trwy’r pelydr-x. Wedyn trwy reolaeth pasport Ffrainc ac yna i mewn i’r ystafell aros. Fan’ny fe ges i frechdan a rhywbeth i’w yfed a galw cyfaill yn Aberystwyth. Roedd y dyn oedd yn rhannu’r ford gyda mi yn edrych arna wrth imi siarad Cymraeg ar y ffôn. Ac wedi imi orffen dyma fe’n troi ata i ac yn gofyn gydag acen Ffrengig drom o ble roeddwn i’n dod. A dyna ddechrau sgwrs am Gymru, Brwsel, Paris a’r byd. Yna fe ddaeth yn amser iddo fynd i ddal ei drên i Baris.

Doedd y trên i Frwsel oedd yn gadael am 15.40 ddim mor llawn ag yr oeddwn i wedi’i ofni ond mae’n rhaid imi gyfaddef imi gysgu bron yr holl ffordd i orsaf Brussel Zuid lle mae trên yr Eurostar yn cyrraedd y ddinas. Ond nawr roedd yr antur go iawn yn dechrau. Roedd popeth wedi bod yn ddigon hawdd hyd yn hyn, ond bellach roeddwn i wedi gadael cyfforddusrwydd y Saesneg a byddai’n rhaid imi fentro ar fy Iseldireg neu fy Ffrangeg. Roedd hi’n dipyn o her dod o hyd i’r tacsis, gan fod yr arwyddion yn pwyntio un ffordd a dyma ni i gyd yn dilyn yn ufudd fel defaid, ond roedd y stiwardiaid tacsis yn ein gyrru’r ffordd arall. Wedi datrys hynny dyma fi yn cael hyd i dacsi. Dechreuodd y gyrrwr y sgwrs mewn Ffrangeg ac felly Ffrangeg amdani. Does dim angen llawer o Ffrangeg, ond pan ddywedodd nad oedd yn gwybod ble’r oedd y lle roeddwn am fynd iddo, dwi’n ofni imi fynd i ychydig o banig. Ond dyma fe tynnu ei sat-nav mas a gosod i mewn y cyfeiriad ac wedyn roedd popeth yn iawn. Roedd yn sylweddoli nad Ffrangeg oedd fy iaith gyntaf a dyna fe’n holi o ble roeddwn i’n dod ac ar ôl esbonio dyma holi iddo a oedd yn medru Saesneg. Atebodd ei fod yn siarad ychydig, ond mae’n arwyddocaol na wnaeth geisio siarad Saesneg gyda mi – mae’n rhaid ei fod yn tybio fod ei Saesneg yn waeth na fy Ffrangeg!

‘Ta beth, wedi rhyw ddeng munud o deithio tua’r de orllewin dyma ni’n dod o hyd i Democratiestraat, Anderlecht ac yn y diwedd rhif 70. Costiodd y tacsi €8.90. Roeddwn i’n gwybod fy mod wedi cyrraedd y lle iawn pan welais i fy enw wedi’i osod wrth un o’r clychau wrth y drws. O dyna ichi ryddhad!

Dyma ganu’r gloch arall ac o fewn dim dyma’r perchennog, M. Jean Dieu yn fy nghyfarch. Roedd ganddo wên groesawgar ar ei wyneb ac o fewn dim roedd wedi fy nhywys i’r fflat a oedd yn mynd i fod yn gartref imi am y tair wythnos nesaf. Roedd yn union fel yr oeddwn wedi ei ddychmygu o’r lluniau a oedd wedi ymddangos ar wefan Bed&Brussels. Yr unig beth y bydd yn rhaid imi chwilio amdano fydd lle i olchi dillad – mae popeth arall yn y fflat. Gwych! Mae M. Dieu yn gweithio mewn rhyw fath o goleg addysg uwch lle mae’n dysgu athrawon ac yn gyfrifol am y llyfrgell. Mae’n dod yn wreiddiol o dde Gwlad Belg. Roedd ei wraig allan yn chwarae tenis, ond mae hi’n dod o Frwsel, er taw yn y Congo y’i ganwyd!

Wedi sgwrs dros wydraid o win coch fe gefais gyfle i fynd am dro byr o gwmpas yr ardal, ond roedd hi’n dywyll ac felly ni welais rhyw lawer a beth bynnag roeddwn i wedi blino’n lân. Dyma alw mewn siop oedd yn agor yn hwyr ac yn cael ei rhedeg gan Sikh mewn twrban ac anghofio’r Ffrangeg am laeth ond yn cofio’r Iseldireg ‘melk’ – fe wnaeth fy neall, efallai am fod yr holl labeli yn ddwyieithog.

‘Nôl i’r fflat wedyn gyda chofi a llaeth a rhywbeth i’w gnoi ac ysgrifennu hyn o eiriau cyn mynd i’r gwely. Dwi wedi blino.

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

1 sylw ar Cyrraedd Brwsel 2006-12-20

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>