Wyt ti’n gwybod beth yw’r ateb?

Beth am gystadlu yn erbyn y myfyrwyr. Dyma gwestiynau’r rownd ar wleidyddiaeth Ewrop y cwis heno. Wyt ti’n gwybod yr atebion?

1. Pa wladwriaeth Ewropeaidd yw’r weriniaeth hynaf yn y byd?

2. Pwy oedd llywydd y gynhadledd Ewropeaidd a luniodd yr hyn sy’n cael ei alw yn Cytuniad sy’n sefydlu Cyfansoddiad i Ewrop, ac y mha flwyddyn y cyhoeddwyd y cytuniad terfynol?

3. Pwy oedd arlywydd cyntaf y Ffederasiwn Rwsiaidd wedi cwymp yr Undeb Sofietaidd ac ym mha flwyddyn y cafodd ei ethol?

4. Lluniwyd cyfansoddiad modern yr Almaen gan tri gallu gorllewinol – Prydain, Ffrainc a’r Taleithiau Unedig – yn dilyn yr Ail Ryfel Byd. Gydag ychydig ddiwygio y mae’n dal yr un heddiw. Ond nid yw’n cael ei alw’n gyfansoddiad, felly beth yw enw’r ddogfen?

5. Yn 1980 sefydlwd yr undeb annibynnol Solidarność, neu Solidarity, yng ngwlad Pwyl. Pwy oedd un o sefydlwyr yr undeb a fu’n arlywydd Gwlad Pwyl o 1990 tan 1995?

6. Pa ddwy wladwriaeth Ewropeaidd sy’n caniatáu i’w dinasyddion wasanaethu ym myddinoedd gwladwriaethau eraill?

7. Yn 1986 saethwyd prif weinidog Sweden yn farw ar y stryd yn Stockholm wrth iddo yntau a’i wraig gerdded adref o’r sinema. Pwy oedd e?

8. Organisation internationale de la Francophonie yw enw’r mudiad rhyngwladol ar gyfer gwledydd a llywodraethau Ffrangeg eu hiaith a gwledydd lle mae diwylliant Ffrengig â lle arwyddocaol. Mae dros hanner cant o wladwriaethau yn aelodau trwy’r byd, a 12 yn Ewrop. Allwch chi enwi’r gwladwriaethau Ewropeaidd hynny?

9. Sefydlwyd Cyngor Ewrop, the Council of Europe, yn 1949. Un o’r prif ysgogwyr dros wneud hynny oedd araith gan wleidydd amlwg ym Mhrifysgol Zurich ynm Medi 1946 yn galw am sefydlu Taleithiau Unedig Ewrop, United States of Europe, ar batrwm Unol Daleithiau America. Pwy oedd y gwleidydd?

10. Yn wleidyddol beth sy’n cysylltu Gweriniaeth Iwerddon ac ynys Melita?

Atebion
1. San Marino.
2. Valéry Giscard d’Estaing, 2004.
3. Boris Nikolayevich Yeltsin, 1991.
4. Y gyfraith sylfaenol / Grundgesetz (für die Bundesrepublik Deutschland) / Basic Law.
5. Lech Wałęsa.
6. Gweriniaeth Iwerddon (sy’n caniatáu i’w dinasyddion wasanaethau ym myddin y Deyrnas Gyfunol) a’r Swistir (sy’n caniatáu i’w dinasyddion wasanaethu ym myddinoedd Ffrainc, Yr Almaen a’r Eidal).
7. Olof Palme.
8. Albania, Andorra, Bwlgaria, Ffrainc, Gwlad Belg, Gwlad Groeg, Luxembourg, Macedonia, Moldavia, Monaco, Romania, Y Swistir.
9. Winston Churchill.
10. Yr unig wladwriaethau yn y byd sy’n defnyddio’r sustem Pleidlais sengl drosglwyddadwy (Single transferable vote) ar gyfer etholiadau i’w senedd wladwriaethol.

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>