Myfyrwyr bywiog a brwdfrydig!

CwisYdy myfyrwyr wedi newid? Y rheswm dwi’n holi’r cwestiwn yw achos fy mod wedi cael noson ardderchog heno yng nghwmni aelodau Cymdeithas Wleidyddol Gymraeg Prifysgol Cymru Aberystwyth. Y cof sy gen i o fyfyrwyr y 1990au yw nad oedd ganddyn nhw lawer o ddiddordeb mewn unrhyw beth. Doedden nhw ddim yn gadael i ddim i’w cyffroi o gwbl; buasai dangos unrhyw fath o frwdfrydedd yn cael ei weld fel gweithred o frad yn erbyn pob myfyriwr arall oedd yn ceisio gwasgu lawr unrhyw emosiwn er mwyn ymddangos nad oedd ganddynt ddiddordeb mewn dim. Dyma’r myfyrwyr pan fyddwn i’n cael cyfle i siarad gyda nhw fuasai’n treulio’u hamser yn edrych ar eu traed neu mas trwy’r ffenest, neu cyfuniad o’r ddau. Ac yn bendant oes oedd ‘na gyfle i ofyn cwestiwn byddai hwnnw’n cael ei osgoi fel y pla.

Ond heno dyma fei’n cael fy hun yng nghwmni pobol ifainc frwdfrydig oedd yn barod i siarad yn gwrtais gyda chi ac edrych i mewn i’ch llygaid ac ymateb i’r hyn oedd gennyf i’w ddweud. Roedden nhw hyd yn oed yn ddigon cwrtais i chwerthin ar fy hiwmor gwan iawn i. Efallai y buasai’n well imi esbonio sut y cefais fy hun yn y fath gwmni.

CwisRoeddwn i wedi addo ers amser i GCr y buaswn i’n fodlon cynnal cwis i’r Gymdeithas Wleidyddol Gymraeg ond wedi methu. O’r diwedd dyma fy nghlymu i ddyddiad a lle – sef y Cŵps ar ei newydd wedd ac o dan reolaeth newydd. Mae’r lle wedi newid rhyw ychydig, y muriau yn fwy golau a’r golau’n gryfach, ond yr oedd y bar uchaf yn weddol debyg i’r ffordd oedd e o dan yr hen oruchwyliaeth. Ond roedd hi’n ddiddorol i weld beth roedden nhw yn ceisio’i wneud gyda’r lle. Doeddwn i ddim yn rhyw siŵr iawn faint o bobl i’w disgwyl i’r noson ac felly mae’n rhaid imi gyfaddef imi gael tipyn o syndod i weld y lle yn llawn heb ‘na ford na chadair yn rhydd bron â bod. Nid dim ond myfyrwyr chwaith, ond hwy oedd y mwyafrif.

Rhaid imi gyfaddef fy mod wedi ei chael hi’n eithaf anodd dychmygu beth fyddai’n anodd a beth fyddai’n hawdd. Felly dyma fi’n gosod y safon yn weddol uchel, ac er ei fod yn weddol anodd fe wnaeth y cystadleuwyr gynhesu i’r cwis ac ymateb yn fywiog a brwdfrydig. A dyna fi wedi defnyddio’r ddau air yna unwaith eto yng nghyd-destun myfyrwyr, dwi ddim yn credu imi wneud hynny ers amser maith. Roedd hi’n noson arbennig oherwydd fy mod wedi goresgyn fy rhagfarn, ac erbyn hyn mae rhyw sôn am drefnu cwis arall rhywbryd yn y dyfodol. Gobeithio’n wir y byddaf i’n cael gwahoddiad i fod yn rhan o hynny.

Rhagor o luniau o’r noson gwis yn y Cŵps.

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli di ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>