Beth mae DML yn ei ddarllen 2006-11-29

Mae’r ford gofi yn drymlwythog â danteithion llenyddol yr ŵyl yn barod, a thros y diwrnodau a’r wythnosau nesaf bydd y wledd yn tyfu’n fwy mae’n siŵr. Dyma beth mae DML yn ei ddarllen ar hyn o bryd.

Cof ac arwydd : ysgrifau newydd ar Waldo Williams, golygwyd gan Damian Walford Davies a Jason Walford Davies [...]

Dathlu cyhoeddi Cydymaith Caneuon ffydd

Mae gen i fywyd y tu fas i lansio llyfrau, er wrth ddarllen y blog mae’n anodd gwerthfawrogi hynny weithiau. Echnos roeddwn i mewn lansiad arall. Y tro hwn yng nghanolfan Morlan yn Aberystwyth a hynny ar gyfer achlysur arbennig sef lansiad cyfrol i gyd-fynd â’r llyfr emynau cyd-enwadol a gyhoeddwyd yn 2001, Caneuon ffydd, [...]