Gwibdaith i Lerpwl a Bangor 2006-08-22 (3)
“Ferry ‘cross the Mersey”
O’r Pier Head mae’r llong fferi enwog yn hwylio i Ben-bedw, neu i Seacombe i fod yn fanwl gywir. A dyna oedd bwriad RO a minnau nesaf. Yr oeddem ar gychwyn ar antur ein bywydau, pererindod seciwlar i fan geni John Saunders Lewis. Ond i gyrraedd y fangre honno roedd yn rhaid croesi’r afon ac felly fe’n cludwyd ni rhan o’r ffordd i’n ‘mecca’ ar y fferi a hynny i gyfeiliant disgwyliedig Gerry and the Pacemakers . Ond roedd y broses o gael ar y fferi yn llawer mwy cymhleth a hir na’r daith. Yn y lle cyntaf yr oedd y lanfa arferol yn cael ei hailadeiladu ac fe gawsom ein gyrru ar hyd llwybr oedd yn ymddangos yn filltiroedd o hyd nes cyrraedd y lanfa dros dro. Diolch byth fod y tywydd yn braf a bod y ddau ohonom mewn hwyliau da. Ar ôl disgwyl mewn cwt o gannoedd am rhyw chwarter awr dyma’r fferi yn dod i’r lan. Roedd hi’n edrych yn rhy fach i gymryd y torfeydd oedd ar y lan, ond yn raddol wrth iddi wagio fe ddaeth yn amlwg fod gan y llong rhai o hanfodion y Tardis – sef y gallu i gynnwys llawer mwy o bobol na fuasech yn ei gredu o’i golwg.
Ar ôl yr holl ddisgwyl a’r aros roeddwn i wedi fy nghynhyrfu’n lân wrth fynd ar y fferi ac roeddwn i’n ei chael hi’n anodd iawn i reoli fy hunan! Roedd popeth mor ddiddorol a gwahanol. Roeddem ni’n cael teithio ar y fferi fel rhan o’n tocyn teithio diwrnod ac roedd y daith ar draws afon Merswy yn cymryd rhyw awr gan ein bod yn mynd am wibdaith ar hyd y glannau. I fyny ar ochr Lerpwl yr afon i ddechrau heibio i’r hen ddociau a’r rhai newydd ac yna croesi’r aber heibio i New Brighton ac yna i Seacombe. Wrth inni deithio roedd ‘na sylwebaeth gyson yn nodi dweud beth roedden ni’n ei weld a beth oedd hanes y pethau hynny. Roeddwn i wrth fy modd, ac wrth inni gychwyn dyma nhw’n chwarae cân Gerry and the Pacemakers, Ferry cross the Mersey yn uchel trwy’r llong i gyd. Gwych!
Ar ran gyntaf y daith yr oeddem yn dilyn y lan ddwyreiniol ac yn mynd heibio i hen ddociau Lerpwl. Ond er eu bod yn hen mae llawer ohonyn nhw’n dal i gael eu defnyddio. Ar ochr Lerpwl i’r afon ceir dros saith milltir o ddociau – mae’r dociau i’r de o’r Pier Head, fel yr Albert Dock a’r Canning Dock, wedi’u llenwi neu’n atynfeydd twristaidd. Ond i’r gogledd o’r Pier Head mae nifer ohonyn nhw yn dal i fod yn dramwyfa i drafnidiaeth a masnach, yn enwedig ym mhorthladd cymharol newydd Seaforth sy’n agos i’r môr. Tyfodd porthladd Lerpwl ar sail y fasnach mewn caethweision. Dechreuodd y fasnach honno yn 1700, erbyn 1744 roedd dros hanner y llongau oedd yn masnachu mewn caethion yn dod o Lerpwl; erbyn diwedd y ganrif amcangyfrifid bod Lerpwl yn rheoli 60% o’r fasnach Brydeinig, a hynny yn 40% o’r fasnach Ewropeaidd. Credir i 1.5 miliwn o gaethion gael eu cludo o Affrica i’r America gan longau Lerpwl. Mae dod i delerau â hynny yn anodd ac mae’r broses yn dal i fynd yn ei blaen.
Wrth i’r porthladd dyfu a thyfu cafodd miloedd eu denu i weithio yno ac yn eu plith hwy nifer fawr o Gymry. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg y gwelwyd y nifer fwyaf yn symud yno, o’r gogledd yn bennaf, i weithio. Yr oedd llawer o’r dynion yn gweithio yn y dociau, ond roedd nifer fawr hefyd yn cael gwaith yn adeiladu’r tai oedd yn codi ym mhob man er mwyn cynnig cartrefi i’r boblogaeth oedd yn tyfu’n gyson. Wrth i’r Cymry dyfu’n fwy llewyrchus yr oeddent gwella eu byd ac roedd nifer fawr o deuluoedd, rhai cyfoethog iawn yn ôl safon yr hen wlad, yn galw am wasanaeth morynion Cymreig a dyna oedd yn denu’r menywod i’r ddinas. Hyd y Rhyfel Byd Cyntaf roedd cael morwyn neu ddwy neu hyd yn oed dair ddim yn beth anghyffredin iawn – doedd dim o’r cynorthwyon sydd gennym ni i wneud gwaith tŷ, roedd yn rhaid i bopeth gael ei wneud â llaw. Fel mewnfudwyr eraill yr oedd y Cymry yn dueddol o fyw yn yr un ardaloedd ac yn raddol roedd y llefydd hynny yn troi yn ardaloedd Cymraeg yn ogystal â Chymreig gyda’r holl sefydliadau a’r arferion Cymraeg arferol yn cael eu cynnal. Y pennaf yn eu plith oedd crefydd, ond stori arall yw honno ac fe gaiff ei hadrodd.
Nid y Cymry oedd yr un bobol i ddod o hyd i gartref yn Lerpwl, fe ddenodd y ddinas rai yn chwilio gwaith o bob man. Yr amlycaf yn eu plith oedd y Gwyddelod a’r Tsieiniaid. Mae’n rhyfedd pa fath o gymdeithasau y mae dinasoedd yn eu cynhyrchu. Yma roedd Methodistiaid Calfinaidd Cymraeg yn byw ac yn gweithio gyda Phabyddion a Chonfwsiaid, a’r cwestiwn sy’n codi yn fy meddwl i yw a oedd rhai o’r “cenhadon hedd” ar lannau Merswy ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn taro mewn i’r take-away lleol am borc surfelys gyda reis ar ôl dod adref o’r cwrdd gweddi ar nos Iau!

![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)

Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael