Crap ar farddoni

Catrin Dafydd yn llongyfarch y buddugwrDwi ddim yn un sy’n mynd mas yn aml iawn gyda’r nos. Dwi’n teimlo ar goll mewn torfeydd bellach yn enwedig pan eu bod nhw’n dorfeydd o bobol ifainc. Felly dwi ddim yn gwybod beth oedd arna i nos Wener diwethaf pan wnes i ddweud fy mod yn mynd i fynd i’r noson roedd grŵp o feirdd ifainc wedi’i threfnu yn nhafarn y Cambrian, Aberystwyth. Roedd DML wedi gofyn imi ddod ac roeddwn i wedi rhyw hanner bodloni, yna fe wnaeth GwC ofyn imi ddod am ddiod ymlaen llaw ac fe wnes i syrthio. Roeddwn i’n dal i fod braidd yn ansicr ond roeddwn i ymhlith ffrindiau. A da o beth hynny oherwydd pan wnes i gerdded drwy ddrws yr oruwchystafell tafarn y Cambrian lle’r oedd y noson yn cael ei chynnal roeddwn i’n teimlo’n hen, yn hen iawn i ddweud y gwir. Y cyfan a welwn o’m blaen i oedd môr o wynebau ieuainc eiddgar yn edrych ar hen ŵr yn cerdded i mewn. Ond roedd gen i gefnogaeth foesol – DML ei hun, GwC, IBJ ac ADaf. O fewn dim roeddem ni wedi dod o hyd i le i eistedd, ond roedd rhywbeth yn bod ar yr ystafell fel lle i gynnal noson, oherwydd roedd hi’n bosib ichi eistedd fan’ny heb fedru gweld y perfformwyr o gwbwl. ‘Ta beth, rhyw hanner awr yn hwyr fe ddechreuodd y perfformio.

Catrin Dafydd yn arwainRoedd y noson yn rhan o daith gan bump o feirdd ifainc, sef Catrin Dafydd, Hywel Griffiths, Aneirin Karadog, Iwan Rhys ac Eurig Salisbury. I gyd-fynd â daith roedd ‘na gyfrol yn dwyn yr un teitl, sef Crap ar farddoni (Carreg Gwalch, 2006), yn cynnwys cerddi gan y beirdd. Yn anffodus nid oedd Aneirin Karadog yn medru bod yn y noson yn Aberystwyth oherwydd salwch. Arweiniwyd y noson yn awdurdodol gan Catrin Dafydd, ac er bod un neu ddau o’r lleill yn rhyw ysu am fod â rheolaeth, roedd hi’n cymryd pob cyfle i atgyfnerthu ei hawdurdod! Roedd hi’n noson ddifyr iawn gyda hyder a dawn y beirdd wrth gyflwyno yn ddigon i’w ryfeddu, heb sôn am y cerddi eu hunain. Mae’r sawl sy’n fy adnabod yn gwybod fod f’anallu i farddoni’n Gymraeg yn dân ar fy nghroen, mae f’anallu i wneud hynny mewn cynghanedd yn dân dwbwl. Rhyfeddwn at grefft y beirdd caeth (y tri dyn) y noson honno, ond oherwydd eu crefft hwy a’m diffygion innau roeddwn weithiau yn cael fy nhwyllo i gredu fod ‘na ganu rhydd lle’r oedd ‘na ganu caeth – gwastraff – ond roedd y gwrthwyneb yn wir, ac fe hoffwn i gael gwersi mewn gwneud i ganu rhydd swnio fel canu caeth!

Roedd hi’n noson yn orlawn o dalent. Oherwydd i gyd-fynd â’r beirdd roedd ‘na gerddorion. Dyn ifanc o Iwerddon yn canu y pibau a dwy o aelodau’r grŵp Pala yn canu rhai o’u caneuon a fersiwn gwych o Gân Walter Meic Stevens. Ond er mor hyderus y beirdd doedden nhw ddim yn ofni ychydig o gystadleuaeth oddi wrth y gynulleidfa. Oherwydd fel rhan o’r noson cynhaliwyd cystadleuaeth cyfansoddi limrig ac englyn. Fe wnes i gystadlu ar y limrig, ond rhoddwyd fi a phawb arall yn y cysgodion gan DML a enillodd y gystadleuaeth a dod yn ail hefyd. Doedd hi ddim yn syndod taw IBJ gipiodd y blaen gyda’i englyn. Noson ardderchog.

Rhagor o luniau o noson Crap ar farddoni, Aberystwyth.

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

2 sylw ar Crap ar farddoni

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>