Eglwys Gadeiriol S. Giles

Eglwys Gadeiriol S. Giles, CaeredinWedi cinio fe ddylsen i fod wedi cymryd hoe, ond roedd gen i ormod o bethau i’w gwneud a dim digon o amser ar eu cyfer. Felly dyma godi o’r bwrdd a throi i’r chwith i fyny’r Filltir Frenhinol tuag at Eglwys Gadeiriol S. Giles . Sefydlwyd yr eglwys wreiddiol ar y safle yn y 1120au yn ystod teyrnasiad y brenin David I(1124-1153) ac yn raddol wrth i’r ddinas dyfu fe dyfodd Eglwys S. Giles. Er ei bod yn eglwys bwysig nid oedd yn eglwys gadeirol hyd 1633 a hynny bron i ganrif wedi i Eglwys yr Alban droi ei chefn ar esgobion a mabwysiadu llywodraeth bresbuteraidd ar gyfer yr eglwys. Yn ystod cyfnod y diwygiad Protestannaidd daeth Eglwys S. Giles yn ganolfan bwysig wrth i John Knox ddod yn weinidog yma yn 1559 ac aros yma tan ei farwolaeth yn 1572. Ymwrthododd Senedd yr Alban â Phabyddiaeth yn 1560 ac wrth i addoliad Eglwys S. Giles newid i adlewyrchu’r diwygio yma fe newidodd yr adeilad yn fawr iawn. Yn hytrach na’r nifer fawr o gapeli bychain yr oedd eu hangen ar gyfer dweud offerennau dros eneidiau’r ymadawedig, fe ddaeth y pwyslais ar bregethu ac felly neuadd fawr i ddal cymaint o bobol â phosib oedd yr angen. O ganlyniad ni welir cymaint â hynny o’r ‘trugareddau’ sy’n gyffredin mewn eglwysi cadeiriol eraill, eto i gyd mae rhyw 200 o gofebau ar hyd a lled yr adeilad. Datblygodd pedair cynulleidfa yng Nghaeredin yn ystod cyfnod y Diwygiad Protestannaidd, ac roedd tair ohonynt yn addoli yn Eglwys S. Giles ac o ganlyniad codwyd waliau o fewn i’r eglwys ei hun er mwyn rhannu’r gofod ar gyfer y gwahanol gynulledifaoedd.

Cofeb ar y llawr i Jenny (Janet) Geddes, Eglwys Gadeiriol S. Giles, CaeredinYr hyn sy’n ddiddorol oedd bod y drefn eglwysig a fabwysiadwyd yn yr Alban ac wedi cael dylanwad ac effaith ar adeiladau eglwysig yr wlad, ond eto wedi i’r brenin James VI dod yn frenin Lloegr fe ddymunodd adfer y drefn esgobol yno ac fe wnaeth hynny’n raddol heb godi gwrychyn gormod. Ond roedd Siarl I yn un a oedd yn arbenigo ar godi gwrychyn. Yn ei gyfnod ef y neilltuwyd Eglwys S. Giles fel eglwys gadeiriol yn 1633 ac fe orchmynwyd fod pob eglwys i ddefnyddio llyfr gweddi gyffredin yn 1637 – llyfr Albanaidd gyda llaw nid un Lloegr. Ond roedd hyn yn fwy na allai’r Albanwyr Protestannaidd ei oddef a phan ddefnyddiwyd y Llyfr Gweddi Gyffredin am y tro cyntaf yn Eglwys Gadeiriol S. Giles fe achosodd reiat. Arwres yr hanes oedd Janet, neu Jenny, Geddes. Dywedir iddi gymryd y stol fach oedd ganddi (roedd yn rhaid i addolwyr ddarparu eu stolion eu huanin yn y cyfnod) a’i thaflu at y Deon Hannay wrth iddo ddechrau defnyddio’r Llyfr. Mae cofebau i’r digwyddiad hwn yn yr Eglwys Gadeiriol heddiw ac mae’r stol wreiddiol i’w gweld yn Amgueddfa’r Alban.

Copi o'r Cyfamod Cenedlaethol, Eglwys Gadeiriol S. Giles, CaeredinRoedd ffolineb Siarl I yn amlwg yn ei ymdrech i orfodi’r Llyfr Gweddi ar y Sgotiaid Protestannaidd, fe aeth pethau o ddrwg i waeth wrth i arweinwyr Protestannaidd yr Alban arwyddo cyfamod cenedlaethol a arweiniodd at ryfel cartref a dienyddio Archesgob Laud Caer-gaint a’r brenin Siarl I ei hun. Gwelir olion y gwrthdaro cas a chreulon yn y cofebau sydd yn yr Eglwys Gadeiriol i rai a laddwyd yn y brwydro. Yn y diwedd adferwyd y frenhiniaeth ac esgobion yn yr Alban fel yn Lloegr a bu’n rhaid disgwyl tan 1689 i weld dileu esgobion o Eglwys y Alban, ond eto i gyd mae Eglwys S. Giles yn dal at ei hawl i alw ei hun yn eglwys gadeiriol.

Organ, Eglwys Gadeiriol S. Giles, Caeredin

Dwi’n credu fod y profiad o ymweld ag eglwys gadeiriol bresbuteraidd fel S. Giles yn un arbennig ac yn werth profi, ond i werthfawrogi’r ymweliad yn llawn rhaid mynd yno gyda rhyw syniad am hanes yr Alban o 1520 tan 1700. Dim ond wedyn y gall y cerrig sychion adrodd hanes cyffrous a chythryblus y gwrthdaro dros grefydd yn y cyfnod.

Rhagor o luniau o Eglwys Gadeiriol S. Giles, Caeredin.

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>