Wedi’r holl bensaernïaeth a hanes roeddwn i’n barod am ginio. Felly dyma fynd ar y bws yn ôl i fyny’r Filltir Frenhinol i Hunter Square ac i fwyty Creelers. Dyma le sydd wedi cael ei ganmol tipyn dros y blynyddoedd yn ôl a ddeallaf i. Mae’r lle yn eiddo i gyn-bysgotwr a’i wraig sy’n rhedeg busnes allforio bwyd môr ffres o’r Alban a dau fwyty yn cynnig amrywiaeth o ryseitiau bwyd môr – mae’r bwyty arall ar ynys Arran. Roedd hi’n syniad da mynd amser cinon gan bod y fwydlen yn edrych ychydig yn fwy cymhedrol o ran pris na’r un nos! Roedd y lle yn wych o ran bwyd a gwasanaeth. Fe wnes i fodloni ar ddechreuydd a phrif gwrs. Fel dechreuydd cefais bate pysgod gyda bara ceirch, ac fel prif gwrs fe gefais stiw pysgod gyda salad. Roedd y blasau yn anhygoel wrth iddyn nhw ddawnsio a champo ar fy nhafod. Hyfryd iawn.


![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Wyt ti wedi meddwl am gweithio fel “food critic” erioed?”