Bod yn fochyn cwta

Dr Richard Phillips, Adran Ddaearyddiaeth, Prifysgol LerpwlAr ôl beth ddigwyddodd i’r myfyrwyr hyn’na oedd wedi bodloni bod yn foch cwta mewn profion meddygol a chael yr ymateb ofnadwy i’r moddion roedden nhw’n ei brofi mae’n siŵr bod unrhyw awgrym o gael eich trin fel mochyn cwta yn ddigon i hala ofon arnoch chi. Ond dyna beth dwi’n mynd i fod y penwythnos hwn. Ond dwi’n prysuro i ddweud nad mochyn cwta mewn arbrawf meddygol fydda i. Dwi wedi cytuno i gael fy nghyfweld gan ymchwilydd o Adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Lerpwl, Dr Richard Phillips. Mae e’n gwneud gwaith ymchwil ar y gwrthwynebiad a fu i Ryfel Irác 2003. Un o’r pethau sy’n ei ddiddori yw’r tebygrwydd/perthynas rhwng gwrthwynebiadau cenedlaetholwyr Cymreig a Mwslemiaid. Yn rhyfeddol mae wedi cael arian cyhoeddus i wneud hyn o gronfa y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. Dwi’n cael fy nghyfweld y prynhawn ‘ma am ryw awr neu ddwy, ond fel mae’n digwydd fe wnes i gwrdd â’r dyn neithiwr. Roeddwn i wedi galw i mewn yn y Bar Essential gyda rhai cyfeillion a dyma fi’n ei weld yn mynd heibio a daeth e mewn aton ni i gael peint. Roeddwn yn ei adnabod am ei fod yng nghwmni IapD oedd hefyd yn gweithredu fel un o’i foch cwta.

Y tro diwethaf i mi fod yn fochyn cwta fel hyn oedd yn 1986 pan gefais fy nghyfweld gan fyfyriwr o Brifysgol Rydd Amsterdam oedd yn gwneud ymchwil i genedlaetholdeb diwylliannol. Roedd e’n ddyn hyfryd a dwi’n ‘difaru nawr fy mod heb gadw cysylltiad gydag ef. Efallai yr af ati i geisio chwilio amdano er mwyn gweld beth yw ei hanes bellach. Buodd modryb ac ewythr imi yn foch cwta i ymchwilydd ieithyddol ar Gymraeg ym mhlwyf y Mot, Sir Benfro rhyw ugain mlynedd yn ôl hefyd. Efallai bod y rhai yn dweud nad ydyn nhw’n deall beth yw’r holl ffws. Ond mae’n medru bod yn brofiad reit ofidus gan fod y cyfwelydd yn holi cwestiynau nad ydych chi’n eu disgwyl yn aml iawn, ac maen nhw’n gweld arwyddocâd mewn sylwadau nad oeddech chi wedi meddwl rhyw lawer amdanyn nhw. Ac wrth gwrs mae ‘na ffurflenni i’w cwblhau yn rhoi’r hawl i’r ymchwilydd ddefnyddio’r sylwadau, ac yn y blaen! Wrth adrodd hyn i gyd wrth y blog dwi’n dechrau holi fy hunan pam dwi wedi cytuno i wneud hyn. Ond mewn gwirionedd mae’n medru bod yn gyfle da i ddod i ddeall eich hunan yn well a rhoi trefn ar eich meddyliau. Fel arfer does dim amser i feddwl am y pethau yma yn mewn unrhyw ddyfnder gan eich bod mor brysur yn ceisio gwneud pethau yn seiliedig arnyn nhw! Efallai y bydd gen i sylwadau pellach wedi’r cyfweliad.

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli di ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>