Dathlu

DAO ac MNJDwi’n un sy’n credu’n gryf mewn dathlu pethau. Doeddwn i ddim felly, ond dros y blynyddoedd diwethaf dwi wedi sylweddoli fod dathliadau yn medru rhoi siap i’r cof, yn medru gosod cerrig milltir arwyddocaol i edrych yn ôl arnynt ar ôl blynyddoedd a rhoi rhyw ymdeimlad fod pethau’n werth eu cofio. Mae hyn yn arbennig o wir os ydych chi’n berson sengl, mae dathlu gyda ffrindiau yn ffordd o sicrhau nad yw dyddiadau a digwyddiadau pwysig yn cael eu hanghofio. Yn fy nhyb i mae hi felly gyda’r gwaith hefyd. Os ydyn ni wedi gweithio’n galed i wneud rhyw dasg neu’i gilydd yna fe ddylen ni nodi cyflawni’r dasg honno, fe ddylen ni hyd yn oed gydnabod ein bod wrthi’n gweithio’n galed. Weithiau mae pethau’n medru symud yn araf, neu bryd arall maen ymddangos fod y problemau yn fwy o drafferth na chyflawni’r hyn yr ydym yn ceisio’i wneud yn y lle cyntaf. Dyna pan ei bod hi’n hanfodol i fynd allan i ddathlu! Nos Fercher fe gefais i’r cyfle i ‘ddathlu’ un cam bach ar hyd y daith mewn prosiect yn y gwaith gyda dau o’m cydweithwyr a chyn-gydweithiwr. Fe aethon ni mas i’r Olive Branch a chael noson ardderchog o drafod a chwerthin a dathlu. Mae’r Olive Branch yn fwyty hyfryd ac anffurfiol ond sy’n gwneud bwyd blasus a rhesymol. Cefais i ddechreuydd a phrif gwrs. I ddechrau amrywiaeth o ddipiau ac yna fel prif gwrs, yemista, neu buprod gwyrddion wedi’u stwffio â reis, cnau, a syltanas.

Rhagor o luniau o’r noson ddathlu.

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>