Cwis

Y myfyrwyr a'r staffFel mae’r byd yn rhannu’n ddau ar fater Marmite , mae’r un peth yn wir am gwisiau. Rydych chi’n eu mwynhau, neu yn eu casáu; does dim man canol. Dwi’n digwydd bod yn rhywun sy’n dwlu arnyn nhw. Pan yn ifanc fe fues i’n anffodus iawn a chystadlu fel rhan o dîm Ysgol Preseli ar y gyfres deledu Trenau Cantamil – dwi’n credu taw dyna’r enw – fe wnaethon ni golli’n rhacs. Ond erbyn hyn roedd y gwis â’i grafangau yn ddwfn ynof fi. Ac felly roeddwn yn cymryd pob cyfle i fod arnyn nhw, ac roedd llwyddo (ac roeddwn i yn llwyddo yn aml) yn bleser pur. Fe ddaeth y cyfan i’w benllanw yn 1990 pan enillais i gystadleuaeth Pennau bach Radio Cymru – rhyw fath o Mastermind Cymraeg ar y radio. Roeddwn i’n gorfod ateb cwestiynau cyffredinol a dewis rownd arbenigol. Fe fues i trwy dair rownd er mwyn ennill. Yn y rownd gyntaf fy mhwnc arbenigol oedd Cenedlaetholdeb yng Ngwlad y Basg, 1890-1980; yn yr ail rownd fe wnes i ateb ar fywyd a gwaith y geiriadurwr o Langrallo, Thomas Richards (ca.1710-1790); ac yna yn y ffeinal fy mhwnc oedd David Samwell (Dafydd Ddu Feddyg, 1751-1798), gŵr a oedd yn feddyg ar long Bounty gyda’r Capten Cook. Fe gefais fowlen rhosod risial yn wobr. Ers y llwyddiant hwnnw dwi wedi bod yn gyndyn i gystadlu gan fy mod am gadw fy nghoron! Fe wnes i fynd ar raglen o enillwyr y gyfres, ond doeddwn i ddim yn fuddugol.

Y myfyrwyr a'r staffOnd os nad ydw i wedi bod yn cystadlu mewn cwisiau dwi wedi bod yn eu gosod nhw dros y blynyddoedd ers hynny. A nos Iau fe gefais i’r cyfle i osod cwis i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf yn yr Adran Gymraeg yn Aberystwyth mewn noson gymdeithasol gyda’r staff. Fe wnes i baratoi sawl rownd o gwestiynau ac fe aeth popeth yn iawn. Dwi ddim yn gwybod a oedd pawb wedi mwynhau, ond roedd pawb yn boleit iawn am y cyfan. Fe wnes i fwynhau mas draw. Roedd hi’n rhyfedd meddwl ei bod hi’n bum mlynedd ar hugain ers imi raddio bellach ac roedd hi’n anodd cofio yn ôl i’m wythnos gyntaf i yn y coleg. Wedi’r cwis cefais gyfle i siarad gyda rhai o’r myfyrwyr a dymuno’n dda iddyn nhw. Roedd hi’n bleser bod yn eu cwmni; cenhedlaeth newydd heb eu sbwylio gan sinigiaeth. O’r holl bechodau dyma’r mwyaf hyll, mae’n ceisio difa gobaith, a phan ddifethir gobaith does dim llawer ar ôl inni ddal gafael ynddo. (O Arglwydd cadw fi rhag sinigiaeth!) Fe godwyd fy nghalon yn fawr iawn wrth siarad gydag un myfyriwr oedd wedi astudio’r Gymraeg mewn ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg yn y de ac yn cael y profiad o brofi fod y Gymraeg yn iaith fyw am y tro cyntaf go iawn – “ffantastig, mae e’n ffantastig!” Pwy na allai ond cael ei lonni gan ymateb o’r fath heblaw am y sinig mwyaf calon-galed.

Rhagor o luniau o’r noson gwis gyda myfyrwyr Adran y Gymraeg, Aberystwyth.

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>