Dwi’n gwybod fy mod yn bell o fod yn amaethwr a’m bod i wedi gadael clos y ffarm yn bell ar ôl yn fy ngorffennol, Dwi’n gwybod hefyd taw ychydig iawn o sylw dwi’n ei dalu i’r tymhorau bellach. Yn fy myd i erbyn hyn does dim wyn bach yn y gwanwyn, dim gwair i’w gywain yn yr haf, a dim mwyar a llysiau duon bach i’w casglu yn yr hydref. Nawr dwi’n gwybod eu bod nhw i gyd yn dal i fodoli, oni bai bod rhyw reolwyr yn yr Health & Saftey wedi datgan nad yw’n iawn i fwyara a chasglu llysiau duon bach er eich diogelwch eich hun, ond dwi’n ofni nad ydw i’n mynd yn agos at yr un ohonynt. Felly gallech dybio taw rhywbeth artiffisial yw mynychu Gwasanaeth Diolchgarwch am y Cynhaeaf. Fel i’r rhan fwyaf o bobol bellach sy’n cynaeafu’n wythnosol o feysydd gwynion Tesco a Somerfield yr unig waith caled yr ydym ni yn gwneud am ein bwyd yw gwthio’r cart o gwmpad yr archfarchnad. Ac eto mae ‘na reswm dros weld tu hwnt i’r plastig lapio a’r ‘individually wrapped portions’ i’r hyn sydd yn gwneud cynhyrchu’r bwyd yn bosib – rhyfeddod daear sydd, er gwaethaf ein holl gamdrin arni, yn dal i gynhyrchu bwyd i’n cynnal mewn amryfal ffyrdd. Fel Cristion dwi’n gweld yn hynny ôl llaw y creawdwr a chydnabod hynny yr oeddwn dros y penwythnos.
Nos Sadwrn roedd aelodau Eglwys y Santes Fair, Aberystwyth, wedi ymgasglu yn Neuadd y Plwyf er mwyn rhannu mewn swper cynhaeaf syml ac i wrando ar y gantores Elise Gwilym yn canu rhai o’i chaneuon crefyddol. Yna fore Sul roeddwn i yng ngwasaneth y Cymun Bendigaid yn yr eglwys am 8.00am ac mewn gwasanaeth teuluol am 9.45am. Yn ein gwasanaeth teuluol cawsom gwmni’r enwog Martyn Geraint. Cyn iddo arwain rhan o’r gwasanaeth cefais i’r fraint o’i holi am ei fywyd ac am ei ffydd. Yn ddiddorol iawn cafodd ei eni yn Sir Benfro ond symud i Bontypridd pan yn ddwyflwydd oed. Fel finnau hefyd roedd wedi cael ei fagu o fewn i’r traddodiad Bedyddiedig ond mae yntau’n parhau ynddo ac erbyn hyn yn athro ysgol Sul ac yn arweinydd y gân yn ei gapel. Roedd ei allu i gyfathrebu gyda’r plant yn rhyfeddol – roedden nhw i gyd yn gwrando ar bopeth roedd e’n ei ddweud yn astud ac yn ymuno yn ei ganeuon i gyd. I’r rhai ohonom nad ydym cweit mor ifanc roedd ei afiaith a’i fywiowgrwydd yn esiampl. A’r hyn oedd yn treiddio trwy’r cyfan oedd ei ddiffuatrwydd.
Yn y nos roedd yr awyrgylch dipyn yn wahanol wrth inni groesawu fel pregethwr gwadd yr Hybarch Andy John, Archddiacon Ceredigion. Mae ef newydd ei apwyntio yn archddiacon yng Ngheredigion – hynny yw yn gwneud y gwaith o ddydd i ddydd yn bugeilio dros yr esgob yn yr ardal hon. Mae Andy yn adnabyddus i ni yn Eglwys y Santes Fair am iddo fod yn ficer yn y plwyf, ficer Eglwys y Drindod Sanctaidd. Pan yn ficer buasai’n dod yn achlysurol i arwain gwasanethau yn Eglwys y Santes Fair ac i weinyddu’r Cymun Bendigaid. Roedd yn hyfryd ei groesawu yn ôl.
Rhagor o luniau o’r swper nos Sadwrn.
Rhagor o luniau o’r gwasaneth fore Sul gyda Martyn Geraint.
Rhagor o luniau o’r gwasanaeth nos Sul.

![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael