Eisteddfod – Dydd Sul 13 Awst 2006 (1)

‘Nôl i Aberystwyth

Eglwys Gatholig Rufeinig y Sagrafen Fendigaid, GorseinonMae teithio adref o’r eisteddfod yn medru bod yn antur ynddo’i hun. Ond gan ein bod yn byw yn Aberystwyth mae’n rhaid gwneud antur allan o’r peth. I rywrai o ben draw Ynys Môn sy’n mynd i eisteddfod yng Nghasnewydd, neu vice versa, mae’r daith yn un anturus. Ond os ydych chi’n byw yn Aberystywth fe allwch chi adael ardal yr eisteddfod a chyrraedd adref yn hawdd erbyn amser cinio. Llynedd fe wnaeth RO a minnau antur o’n taith yn ôl o Eryri wrth grwydro ardal Dylife, Aberhosan a Darowen, cyn cyrraedd Aberystwyth.yn weddol hwyr yn y dydd. Doedden ni ddim am wneud cymaint o antur o’r daith adref y tro hwn, ond beth yw’r pwynt dilyn yr un hen lwybrau adnabyddus pan ar eich gwyliau neu pan nad oes rhaid ichi gyrraedd unrhyw fan ar ryw adeg arbennig. Felly wedi brecwasta yn Nhŷ Fulton ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe fe gychwynasom ni ar ein “hanner antur” o daith yn ôl i Aberystwyth.

Felly yn lle dilyn yr M4 a’r A48 yn syth yn ôl i Gaerfyrddin – dyma osgoi’r ffordd fawr newydd a mynd ar hyd yr hen ffordd. Roedd RO am fynd heibio i bentref Gorseinon. Roedd y lle wedi bod yn fangre futhig iddo yntau ers iddo gael athro daearyddiaeth o’r lle yn ei ddysgu yn yr ysgol uwchradd. I mi roedd yn lle arbennig oherwydd imi dreulio mis yma ddechrau 1986 yn aros yn y ficerdy tra roedd fy mam yn derbyn triniaeth am ganser yn Ysbyty Singleton. Roeddwn i wedi bod ‘nôl dry’r lle ers hynny, ond y tro hwn dyma fynd heibio i’r ficerdy a heibio i Eglwys S. Catrin. Pan roeddwn i yn aros yno roedd ‘na eglwys Gymraeg yn y plwyf, Eglwys y Groes dwi’n credu oedd ei henw, ond mae honno wedi hen gau bellach er ei bod hŷn na S. Catrin.

Edrych tuag at Fro GŵyrBellach mae Casllwchwr a Gorseinon wedi tyfu’n un. Wrth yrru i lawr tuag at Afon Llwchwr doedd dim pall ar y tai o bobtu’r ffordd. Yr unig beth oedd yno i ddweud ein bod wedi dod i gartref enog Evan Roberts oedd arwydd ar ochr y ffordd. Roeddwn i’n rhyw gredu fy mod yn cofio lle’r oedd Capel Moriah, ond methais ei weld wrth inni yrru heibio. Wedyn croesi’r bont dros Afon Llwchwr ac edrych draw tuag at y lan arall a Bro Gŵyr yn y pellter – golygfa hyfryd. Roedd hi yn ddydd Sul yn yr haf, ond roedd y ffyrdd yma yn annaturiol o dawel. Wrth fynd trwy Lanelli, Porth Tywyn a Phen-bre, prin y gwelson ni gar yn pasio. Cyn pen dim amser roedden ni yng Nghaerfyrddin. Dyma aros yno i ymestyn ein coesau a phwy welsom ni yn y maes parcio ond Dr MWR ac Elwyn. Dyma fynd i gael paned a chacen yng nghaffi M&S a sgwrs am sut oedd ein profiad ni o’r eisteddfod.

Cwm Gwili

Yn hytrach na dilyn yr un hen ffordd o Gaerfyrddin i Aberystwyth dyma ddringo Cwm Gwili a thuag at Gynwyl Elfed. Mae’r ffordd hon yn brydferth tu hwnt ac yn esbonio pam bod cymaint o fewn fudo wedi bod i’r ardal hon. Anodd dychmygu sut y gallech chi greu rhywle sy’n fwy tebyg i baradwys ar ein daear. Anodd credu fod y lle yn medru bod mor wyrdd ar ôl gwres a sychder yr haf, ond dyma Gymru wledig yn ei holl ogoniant. Trwy bentref Cynwyl Elfed ac ymlaen i’r Rhos, Pentre-cwrt a Llandysul. Wrth inni ddod yn nes at Aberaeron fe ddechreuodd nifer y ceir oedd ar y ffordd gynyddu’n fawr. Ac erbyn inni gyrraedd y dref ei hun roedd hi’n amlwg fod yr ŵyl gobiau a merlod flynyddol yn digwydd yn y dref. Wrth inni yrru’r trwy’r dref dyma ni’n gweld yr olygfa ryfeddol, sef dynion yn marchogaeth ar gobiau wedi’u gwisgo fel Merched Beca ac yn cael eu ‘hamddiffyn’ gan yr heddlu! Ble mae ‘gogoneddu’ mewn terfysgaeth nawr?

Aberaeron

Wrth i Aberystwyth ddod yn nes roedd y dyhead o fynd i orffwys yn neu ar y gwely yn cryfhau. Ac er holl bleser a chwmni difyr y daith, er holl fwynhad yr wythnos yn Abertawe a’r eisteddfod, roedd gweld fy nghartref bach a’m gwely clyd yn llenwi fy nghalon a llawenydd. Ac felly yr es i gysgu a cheisio dad-flino ychydig ar ôl gwneud, dweud a gweld cymaint. Diolch gyfaill, diolch gyfeillion, am eich amynedd!

Rhagor o luniau o ddiwrnod olaf yr eisteddfod a’r daith adref i Aberystwyth.

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

1 sylw ar Eisteddfod – Dydd Sul 13 Awst 2006 (1)

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>