Cyrri
Wedi bwyta cocos yn gynharach yn yr wythnos fe ddaeth tro bwyta un arall o ddanteithion traddodiadol Abertawe, sef cyrri. Wedi i bawb setlo i lawr yn Singleton, ac wedi i DML ddod yn ôl o dynnu stondin Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i lawr (yn gyfreithlon!) ar faes yr eisteddfod yr oedd yn rhaid mynd i chwilio am swper. Os ydych chi’n chwilio am rywbeth da a rhad yna cyrri yw’r unig ddewis yn Abertawe, ac mae dewis yn air da iawn. Ar bob cornel mae ‘na dŷ cyrri. Doedden ni ddim yn gwybod pa un i’w ddewis ond fe adawodd y gyrrwr tacsi ni i lawr tu fas i hen eglwys enfawr oedd yn gartref i fwyty Indiaidd Miah’s yn Heol San Helen. Fe benderfynon ni i gael pryd i bedwar ac mewn gwirionedd roedd yn wledd flasus. Wnaeth pawb ddim mwynhau cymaint â mi, ond roedd y cyfan yn fargen flasus. Wedi’r pryd roedden ni i gyd yn barod fynd i’r gwely a chysgu. Mae angen bod yn wydn i oroesi wythnos gyfan o eisteddfota.


![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael