Diwedd yr wythnos
Wedi cynnwrf a chyffro y blog-gwrdd doedd dim rhyw lawer ar ôl i edrych ymlaen ato. Roeddwn i wedi gwneud popeth yr oeddwn wedi breuddwyio am ei wneud – Bro Gŵyr, Marchnad Abertawe, Pontardawe, Banwen, Pontneddfechan, maes yr eisteddfod, Tabernacl, &c. Yr unig siom oedd methu mynd i chwilio am gofeb Hopcyn ap Tomos yn Ynysforgan oherwydd y tywydd. Roedd popeth arall wedi bod yn ‘berffaith’ i bob pwrpas. Roedd y fflat wedi bod yn iawn, roedd y coginio wedi mynd yn iawn (ac wedi plesio rhai yn fawr).
Roeddwn i wedi cael lifft i mewn i’r eisteddfod gan DJP ac felly er mwyn gadael roedd yn rhaid imi un ai cymryd bws i fewn i ganol y ddinas neu gael lifft gydag e. Mae yntau yn un sy’n mwynhau’r eisteddfod ac fe wasgodd bob dropyn y gallai o’r eisteddfod cyn inni fynd y noson honno. Mewn geiriau eraill, roeddwn i’n barod i fynd ac roedd e am aros. Ond gan fy mod yn ddiolchgar iawn am lifft bob amser, roedd yr aberth yn ddim o feddwl y gallen i fod yn trafaelu i mewn i ganol y ddinas fy hunan.
Mae’n rhyfedd sut mae pobol yn medru cymryd agweddau mor wahanol at yr un peth. Nawr dwi ddim yn ystyried fy mod mor wahanol â hynny i DJP: rydyn ni’n mwynhau’r un fath o bethau – cerddoriaeth, barddoniaeth, ffilmiau, &c, a dyw ein hagweddau at bethau eraill ddim yn wahanol iawn i’n gilydd, o gofio ein bod wedi cael ein magu ar ddau begwn i Gymru bron. Ond pan ddaw hi’n fater o eisteddfod allech chi ddim cael dau sy’n fwy gwahanol. Mae e’n enjoio cerdded rownd y lle yn amsugno’r holl ddiwylliant a dwi ddim! Fy mhroblem i yw honno, nid problem DJP ac nid problem yr eisteddfod. Mewn gwlad arall a diwylliant gwahanol fe fuasai’n bosib fy anfon i wersyll i’m ‘haddysgu’ i wella fy agweddau. Rwy’n ceisio fy ngorau, ac efallai fod y diwrnodau wnes i dreulio yno yn Abertawe eleni wedi mynd rhyw ychydig tuag at fy nenu yn ôl at yr ‘hen fam’ ei hun.
Ar ôl diwrnod yn yr eisteddfod fe aeth DJP a minnau am ein gwesty am y noson, sef gwely a brecwast yn un o neuaddau campws Singleton Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Fel mae’n digwydd roeddwn i wedi aros yma llynedd pan fues i mewn cynhadledd ar hanes ffotograffiaeth. Roedd RO wedi mynd yno yn gynt gan nad oedd wedi bod yn yr eisteddfod ond wedi treulio’r diwrnod yn crwydro o gwmpas y ddinas. A diolch byth ei fod e wedi mynd yn gynnar oherwydd fe wnaeth achub fy mywyd gan sicrhau ystafell imi ar y llawr gwaelod fel nad oedd raid imi ddringo i’r pumed llawr yn Neuadd Caswell am fod y lifft wedi torri. Diolch am y gymwynas honno, RO.

![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael